18/04/2023

Mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i brentis Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo gwblhau cymhwyster cynaliadwyedd yn llwyddiannus wrth weithio i'r elusen sy'n achub bywydau.

Cafodd Jack Tancock, o Abertawe, Ddiploma Lefel 2 mewn Ailgylchu a Chynaliadwyedd Warws - cwrs a astudiodd fel rhan o'i brentisiaeth gyflogedig gydag Ambiwlans Awyr Cymru. 

Cafodd Cynllun Prentisiaeth yr Elusen ei lansio nôl yn 2021, a Jack oedd y prentis Gweithiwr Cynaliadwyedd Warws cyntaf. Mae'n gweithio yn siop a warws Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghwmdu, Abertawe.

 Mae Jack wedi dysgu, ymysg pethau eraill, sut i adnabod rhoddion addas, nid yn unig ar gyfer y siopau, ond hefyd ar gyfer llwyfan e-fasnach yr Elusen, sy’n cynnwys unrhyw beth o fric-a-brac i ddillad. 

Ar gyfer elfen ailgylchu ei rôl, mae Jack wedi dysgu sut i adnabod eitemau i'w hailgylchu, sydd hefyd yn creu incwm i'r Elusen. Dywedodd Jack: “Roeddwn i eisiau gwneud y brentisiaeth er mwyn dysgu a chael mwy o brofiad ar fy C.V. Mae gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi boddhad mawr i mi a byddwn yn annog pobl ifanc i wneud cais am brentisiaethau gyda’r Elusen er mwyn eu helpu i fagu mwy o brofiad. 

“Dwi'n ddiolchgar iawn i Ambiwlans Awyr Cymru am roi'r profiad hwn i mi. Mae wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu tra'n ennill cyflog.

“Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y warws ac mae'r cydberthnasau sydd gennyf â'm cydweithwyr wedi ei wneud gymaint yn haws. Maent yn griw gwych a dwi'n ddiolchgar iddynt am eu holl gymorth.

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster, mae Jack wedi gorfod cwblhau sawl uned orfodol a chafodd ei asesu yn ei swydd fel rhan o'r amgylchedd a'r drefn gweithio arferol.

Ychwanegodd Jack: “Dwi'n hynod o falch o fod wedi cyflawni'r cymhwyster hwn, a dwi wedi bod wrth fy modd yn dysgu am ein Helusen a'r hyn y mae'n ei gynnig i bobl Cymru. ”

Cwblhaodd ei gyd-brentis, Leon Neilly, ei gymhwyster Lefel 2 eleni hefyd.

Yn 2021, treuliodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyfnod yn datblygu strategaeth newydd. Ynddi mae ffocws cryf ar ymgysylltu â phobl ifanc a chynaliadwyedd.

Dywedodd Michelle Morris, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygiad Trefniadol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae ein prentisiaid yn cael cymhwyster gwerthfawr a gydnabyddir gan ddiwydiannau wrth weithio ac ennill cyflog, sy'n rhoi'r cyfle iddynt ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'w rôl a'r Elusen.

“Rydym wedi gweld manteision y rhaglen brentisiaeth. Mae ein prentisiaid wedi meithrin hyder, maent yn defnyddio'r hyn maent yn ei ddysgu yn y gweithle, ac maent wedi effeithio ar y rheini o'u cwmpas yn gadarnhaol.

“Mae'r rhaglen wedi ein helpu i recriwtio a datblygu talent ein dyfodol ac edrychwn ymlaen at ehangu ein rhaglenni prentisiaeth ymhellach.”

Mae Shaun Gower, Rheolwr Tranfidiaeth a Warws, yn falch iawn o Jack.

Dywedodd: “Pan ymunodd Jack â ni roedd yn amlwg nad oedd ganddo fawr ddim hyder. Drwy gydol ei gyfnod yn y warws, mae'r tîm cyfan wedi ei feithrin ac edrych ar ei ôl. Nid yw wedi bod yn hawdd i Jack bob amser, ond fel tîm, rydym wedi ei hyfforddi ar hyd y ffordd.

“Mae golygu llawer o waith ond mae Jack wedi dal ati ac yn haeddu'r cymhwyster yn llwyr.”

“Pan glywais ei fod wedi pasio y peth cyntaf wnes i oedd ysgwyd ei law, ac roedd o'n wên o glust i glust. Roedd yn amlwg bod hyn yn golygu llawer iddo. Mae ei hyder wedi tyfu'n sylweddol; bu'n anrhydedd i'w wylio, ac rwy'n hynod falch o'i gyflawniad.”

Y gobaith yw y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i gynnig rhaglenni prentisiaeth pellach a rhoi'r cyfle i brentisiaid ddod yn aelodau parhaol o'r gweithlu.

Parhaodd Shaun i ddweud: “Mae Jack wedi gwneud hyn i wella ei hun, ac edrychaf ymlaen at ei helpu i wneud cynnydd hyd yn oed ymhellach. Bydd Jack yn aros gyda'r Elusen ac mae ganddo'r cyfle i gysgodi adrannau eraill neu gwblhau hyfforddiant pellach.”

“Dwi wedi mwynhau gweithio gyda'n prentisiaid. Eu llwyddiant nhw yw ein llwyddiant ni.”