Mae brenhines pasiant sy'n wyth mlwydd oed wedi codi £350 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Gabi McMillan, o Gaernarfon, ‘Little Miss Crown and Glory U.K 2019/21’.

Fel rhan o'i rôl, mae wedi codi arian i nifer o elusennau, ac mae'n gobeithio codi £1,000 i'r gwasanaeth sy'n achub bywydau.

Mae'r disgybl o Ysgol Maesincla wedi codi £350 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru hyd yma drwy gynnal cystadlaethau ffotograffau a rafflau ar-lein.

Mae'r Elusen yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 eleni, ac mae angen iddi godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn parhau i ddarparu gwasanaeth sy'n achub bywydau 24/7 i bobl Cymru. 

Cafodd Gabi ei choroni'n ‘Little Miss Crown and Glory U.K.’, sef cystadleuaeth a gynhelir gan ‘Crown and Glory Pageants’, yn 2019. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r pandemig, mae wedi bod yn ddigon ffodus i gael estyn ei theitl.

Mae Gabi, sy'n chwaer fawr i Jai, chwech oed, a Pria, dwy oed, wedi bod yn cystadlu mewn pasiantau ers iddi fod yn bum mlwydd oed, ac mae wedi codi miloedd o bunnoedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn ogystal â chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, Abbie's Army oedd y brif elusen roedd Gabi am godi arian iddi, sef elusen i blant â thiwmorau ar yr ymennydd DIPG y mae ganddynt ddisgwyliad oes o ddim ond naw mis ar ôl cael diagnosis. Mae wedi codi dros £3,500 hyd yma.

Dywedodd ei mam, Debrah, yn llawn balchder, ‘Gabi ei hun sy'n gwneud yr holl benderfyniadau o ran y digwyddiadau codi arian a dewis yr elusennau. Mae wedi dangos ysbryd cadarnhaol gwirioneddol yn ystod 18 mis ansicr o ganlyniad i'r pandemig. Mae Gabi yn glod i ni i gyd.’ 

Mae Gabi hefyd wedi bod yn ddigon caredig i godi arian neu roi arian i uned newyddenedigol Glan Clwyd, ymwybyddiaeth o ddementia ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Dros gyfnos y Nadolig, casglodd eitemau ar gyfer Cymorth i Fenywod er mwyn sicrhau bod plant a menywod yn cael anrhegion.

Roedd Alwyn Jones, Cydgysylltydd Codi Arian Cymunedol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, wrth ei fodd o fod wedi cyfarfod â Gabi a diolchodd iddi am ei gwaith codi arian. Dywedodd: “Mae Gabi yn ferch ifanc hynod ysbrydoledig. Mewn cyfnod mor anodd, roedd yn canolbwyntio'n llwyr ar godi arian i bobl eraill mewn angen.  Mae'n hyfryd bod Gabi, a hithau mor ifanc, yn deall gwaith pwysig Ambiwlans Awyr Cymru.  Llongyfarchiadau mawr iddi am godi arian i'n Helusen, yn ogystal â'r elusennau eraill y mae wedi codi arian iddynt.  Bydd pob ceiniog y mae Gabi yn ei chodi yn helpu'r bobl y mae angen ein cymorth arnynt.”  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

Gallwch ddilyn digwyddiadau a gwaith elusen Gabi drwy ei thudalen Facebook ‘Gabi Little Miss Crown and Glory UK’.