27 Ebrill 2023

Mae partner Gemma Harries, 31 oed, a fu farw yn Ionawr 2023, yn codi arian er cof am 'gariad ei fywyd'.

Cwympodd Gemma Harries, o Nantgaredig, yn sydyn yn oriau mân y bore, ddydd Llun 16 Ionawr 2023, ar ôl iddi deimlo'n fyr ei hanadl a theimlo poen yn y frest. Yn fuan wedyn, cafodd Gemma ataliad y galon a derbyniodd CPR ar unwaith.

Cyrhaeddodd yr ambiwlans awyr, ond er gwaethaf ymdrechion gorau’r criw i achub bywyd Gemma, bu farw yng nghartref ei phartner yn Hendy-gwyn ar Daf am 10:15am.

Gyda'i bywyd cyfan o'i blaen, roedd Gemma, a oedd yn 31 oed, wedi dioddef Emboledd Ysgyfeiniol a Thrombosis Gwythiennau Dwfn.

Cyfarfu Joseff Edwards, o Hendy-gwyn ar Daf, â Gemma yn 2020 ar ôl i gyfyngiadau'r cyfnod clo lacio.

Wrth siarad am Gemma, dywedodd Chris: “Gemma oedd cariad fy mywyd, roedd yn berson a fyddai'n gwneud unrhyw beth i chi. Byddai ei chwrdd am y tro cyntaf fel chwa o awyr iach, a byddech yn teimlo fel petech wedi ei hadnabod ers blynyddoedd. Roedd ei thraed ar y ddaear ac yn enaid hardd."

Roedd Gemma yn byw gyda'i mam, Joyce, a'i thad Hugh, ac yn bwriadu symud i fyw gyda Joseff yr wythnos yr aeth yn sâl.

Mae ei brawd, Jason a'i chwaer-yng-nghyfraith, Hannah, yn byw yng Nghaerdydd ac roedd Gemma yn fodryb falch i Albie 3 oed a Tilly, 6 mis oed.

Dywedodd Joseff: "Roedd Gemma yn addoli ei nith a'i nai ac yn mynd i Gaerdydd bron bob dydd Mawrth i ofalu amdanynt am y diwrnod. Y bwriad oedd i Gem symud i fyw gyda fi yr wythnos i ni ei cholli. Yn anffodus doedd hyn ddim i fod."

Therapydd harddwch yn gweithio yn Sukar yng Nghaerfyrddin oedd Gemma, ac roedd ei holl gleientiaid a'i chydweithwyr yn ei charu. Dywedodd Joseff: “Byddai ei chleientiaid yn dweud wrtha i ei bod hi’n fwy na therapydd harddwch; roedd yn rhywun y gallent siarad â hi am unrhyw beth ac yn gwybod y byddai Gem yno i wrando ac efallai hyd yn oed roi cyngor. Roedd ganddi lwyth o ffrindiau ac yn meddwl y byd ohonynt, a byddent yn aml yn mynd allan am bryd o fwyd neu ar noson allan gyda’i gilydd.”

Mae Joseff yn agosau at benblwydd mawr ym mis Ebrill, yr un cyntaf heb Gemma wrth ei ochr ers iddo ei cholli. 

Yn ysbrydoledig, sefydlodd Joseff ddigwyddiad codi arian penblwydd yn 30 oed ar Facebook i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn y gobaith y gallai newid bywyd rhywun arall er gwell.

Dywedodd: “Penderfynais gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer fy mhen-blwydd gan eu bod yn gwneud gwaith anhygoel, ac maent yn hanfodol i’n cymuned! Dyma'r peth lleiaf y gallwn ei wneud. Ac mae angen i ni i gyd wneud beth y gallwn i'w cefnogi."

"Er mor anodd yw hyn i gyd, rwyf eisiau gwneud y gorau o sefyllfa erchyll."

Mae'r dudalen codi arian eisoes wedi cyrraedd y targed gwreiddiol o £5,000 ac ar hyn o bryd mae'n sefyll ar £6,200.

Mae môr o gariad a chefnogaeth wedi bod ar y dudalen gyda bron i 300 o bobl yn cyfrannu ac yn gadael negeseuon.

Dywedodd Joseff: "Alla i ddim credu'r gefnogaeth rwyf wedi'i derbyn mewn cyn lleied o amser. Mae pobl yn garedig ac yn hael iawn, mae wedi fy syfrdanu, ond hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon a rhoi, mae'n golygu cymaint i mi”.

Dywedodd Laura Slate, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ambiwlans Awyr Cymru: "Fel Elusen, mae'n ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth Gemma. Daw i'r amlwg wrth ddarllen y negeseuon ar-lein, ac wrth ei theulu a'i ffrindiau for Gemma yn wirioneddol ysbrydoledig, gyda chymaint i'w gynnig i'r byd.

“Ni allwn ddechrau dychmygu’r boen a deimlir gan anwyliaid Gemma a chawn ein hysbrydoli’n wirioneddol gan haelioni Joseff. Yn ystod cyfnod o dristwch ofnadwy, mae’n canolbwyntio ar helpu eraill, a chreu etifeddiaeth barhaol yn enw Gemma. Diolch Joseff am ein cefnogi, ac i bawb a roddodd arian. Mae codi dros £6,000 o arian dros gyfnod o ychydig wythnosau yn anhygoel.

"Rydym yn parhau i feddwl amdanoch i gyd a gobeithio y daw hyn â rhywfaint o gysur i chi ar eich pen-blwydd.”

I gloi, dywedodd y Joseff: “Does dim angen i mi ddweud pa mor wahanol fydd y pen-blwydd hwn, ond bydd yn ddathliad er cof am Gemma Harries. Roedd hi'n brydferth, a dwi'n ei charu i'r lleuad ac yn ôl."

Os hoffech chi gyfrannu at ymgyrch codi arian pen-blwydd Joseff er cof am Gemma, ewch i: https://bit.ly/ForGemmaHarris