Mae rhieni Ethan Ross, a fu farw ym mis Medi 2020 yn 17 oed, wedi codi mwy na £6,000 o'u targed o godi £20,000 er cof am y llanc ‘poblogaidd dros ben, ac uchel ei barch’. 

Cafodd Ethan anaf ofnadwy i'r ymennydd ar ôl cael ei daro gan gar ar yr A55 wrth deithio adref o'r gwaith ar ei foped. Aeth Ambiwlans Awyr Cymru ag Ethan mewn hofrennydd i'r Ganolfan Trawma Mawr yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ond, yn drist iawn, bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae rhieni Ethan, sef Helen a Paul o Lanelwy, yn galw ar y cyhoedd i gymryd rhan yn ymgyrch codi arian 'Move a Marathon for Ethan' er cof am eu mab anhunanol, caredig a dawnus.

Digwyddiad penwythnos yw Move a Marathon for Ethan, er budd elusennau Ambiwlans Awyr Cymru ac Young Minds. Mae'r ymgyrch codi arian yn annog pobl o bob oedran i helpu i godi arian drwy symud 26.2 milltir. Gellir cwblhau'r milltiroedd drwy gerdded, nofio, rhedeg neu heicio. Neu, gall pobl feddwl am ffordd greadigol o gymryd rhan. Gall hyn olygu 26.2 o unrhyw beth, er enghraifft 26.2 o funudau neu oriau, neu weithgareddau megis gwneud croeseiriau, pobi, gwnïo, garddio neu gerdded. Bydd popeth yn digwydd yn ystod penwythnos dydd Gwener 18 Mehefin – dydd Sul 20 Mehefin 2021.

Mae tad Ethan a'i frawd, Callum, wedi herio eu hunain i gwblhau marathon ddydd Sul 20 Mehefin.

Roedd Ethan yn ddyn ifanc poblogaidd dros ben ac uchel ei barch, a oedd yn gweithio'n rhan amser fel gweinydd yng Ngwesty Castell Bodelwyddan. Roedd hefyd yn aelod o Sgwad Datblygu Clwb Pêl-droed Tref Dinbych. Roedd yn ‘anhunanol, yn garedig, yn ofalgar, yn benderfynol, yn dawel, yn ddawnus ac yn gystadleuol tu hwnt’.

Dywedodd Helen Ross, mam Ethan: “Roedd Ethan yn astudio Lefel A Mathemateg a Ffiseg yn Ysgol Uwchradd Dinbych ac yn gobeithio mynd i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Awyrofod. Roedd ganddo uchelgeisiau a dyheadau mawr. Roedd yn awyddus i deithio'r byd. Roedd Ethan yn drefnus iawn, ac roedd wedi cynllunio ei fywyd cyfan. Roedd yn hoff iawn o ganu, a byddai'n canu'r gân 'Never Enough' o'r sioe The Greatest Showman nerth ei ben.

“Roedd Ethan wrth ei fodd â gwyddoniaeth ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y sêr a'r bydysawd. Bydd y byd yn wacach hebddo.”

Roedd Ethan wedi ysgrifennu'r geiriau hyn yn ei ddatganiad personol ar gyfer y Brifysgol sydd, yn ôl ei deulu, yn cyfleu Ethan i'r dim – ‘Fel dyn ifanc â diddordeb mawr yn y byd o'm cwmpas, rwy'n gweld fy hun bob amser yn awyddus i edrych i fyny i'r awyr. Rwyf am fyw bywyd at ddiben, er budd pobl mewn rhyw ffordd’.

Wrth sôn am eiriau Ethan, dywedodd Helen: “Mae wedi gwneud hynny heb os, gan roi rhodd bywyd i gymaint o bobl drwy roi ei organau.  Nawr mae angen i ni sicrhau y bydd ei waddol yn parhau.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Rydym yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn Move a Marathon er cof am ein mab annwyl. Hoffem ddiolch i Hamdden Sir Ddinbych Cyf am gynnig cefnogi'r digwyddiad ac am fod yn bartner swyddogol. Rydym wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru ac Young Minds, dwy elusen sy'n bwysig iawn i'n teulu. Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni. Beth am wneud y digwyddiad hwn yr un mor enfawr â chalon Ethan, a'i wneud ef yr un mor falch ohonom ni ag yr ydym ni ohono ef.” 

I gefnogi'r digwyddiad, cafodd Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr y Pafiliwn a bwyty 1891 eu goleuo'n las er teyrnged i Ethan.

Bydd y rhan fwyaf o Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd Sir Dinbych, o Langollen i'r Rhyl, hefyd yn cymryd rhan ddydd Gwener 18 Mehefin drwy gynnal diwrnod codi arian.

Dywedodd Debra Sima, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y Gogledd-ddwyrain: “Nid yw'n bosibl dychmygu poen a thristwch y teulu. Yn dilyn digwyddiad mor drasig, mae'r teulu Ross wedi penderfynu codi arian i helpu dwy elusen bwysig. Mae hyn yn galonogol iawn, ac mae'n dangos gwydnwch anhygoel. Pob lwc i bawb a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad er cof am Ethan.”

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o fod yn brif bartner a chefnogwr y digwyddiad.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch o fod yn bartner swyddogol y digwyddiad elusennol hwn, er cof am ddyn ifanc hyfryd. Fel cwmni, byddwn yn cydlynu sawl gweithgaredd codi arian cyn y prif ddigwyddiad. Byddwn hefyd yn cydlynu'r ymgyrchoedd cymdeithasol a marchnata er mwyn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan a chefnogi dwy elusen werth chweil iawn sy'n agos at galon teulu Ethan, sef Young Minds ac Ambiwlans Awyr Cymru. Hoffem ddymuno'n dda i dad a brawd Ethan, Paul a Callum, yn eu hymdrechion ar y diwrnod, ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu hynt a'u hyfforddiant.”

Gallwch roi arian drwy wefan Just Giving yma:  www.justgiving.com/crowdfunding/moveamarathonforethan

Ewch i denbighshireleisure.co.uk/moveamarathonforEthan i gael rhagor o wybodaeth.