Bydd mam un plentyn o Lanelli yn neidio i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru – drwy nenblymio ym mis Gorffennaf.

Un o'r rhesymau y tu ôl i benderfyniad Katie Roderick i gefnogi'r elusen sy'n achub bywydau yw bod ei mab dwy oed, Eli, yn dwli ar hofrenyddion.

Wrth feddwl am ei rhesymau dros benderfynu codi arian, dywedodd Katie, sy'n 26 oed: “Gwnes i ddewis Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd y gwaith mae'n ei wneud a'r ffordd y mae'n helpu pobl bob dydd – mae'n gwneud gwaith gwych yn fy marn i.  Rwy'n gweld hyn yn hollol anhygoel, ac rwyf am ddangos fy nghefnogaeth a rhoi rhywbeth yn ôl.

“Hefyd, mae fy mab yn dwli ar yr hofrennydd, ac rwy'n mynd ag ef i'r ganolfan yn Llanelli yn aml iawn er mwyn ceisio ei weld yn glanio, ond nid ydym ni wedi llwyddo eto. Roedd hyn, yn sicr, yn rhan o'm mhenderfyniad i godi arian i'r elusen hon.”

Mae Katie bob amser wedi hoffi'r syniad o nenblymio, ac mae'n gobeithio cwblhau'r her ar 31 Gorffennaf ym Maes Awyr Abertawe, os caiff cyfyngiadau'r llywodraeth eu codi.  Mae wedi gosod targed o godi £200.

Ychwanegodd Katie: “Wn i ddim yn iawn sut y byddaf yn ymdopi â'r uchder eto, felly byddaf yn dod i wybod hynny! Mae'n wahanol i'r reidiau mewn ffair, felly byddaf yn dysgu'n syth a ydw i'n hoffi'r uchder neu beidio. Ar y foment rwy'n edrych ymlaen at nenblymio, ond wrth i'r dyddiad nesáu byddaf yn nerfus yn sicr. Ond rwyf hefyd y meddwl y byddaf yn teimlo'n wych fy mod wedi gwneud y peth, felly amdani!

“Mae pawb yn meddwl fy mod i'n wallgof yn ceisio nenblymio, ond maent hefyd yn llawn cyffro fy mod wedi dewis gwneud rhywbeth cadarnhaol i elusen.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Diolch i chi Katie am fod yn fodlon nenblymio i godi arian i'n Helusen. Mae'n hyfryd clywed bod ei mab bach yn mwynhau gweld yr hofrenyddion, a gall adrodd y stori galonogol am ei her nenblymio iddo pan fydd yn hŷn. Diolch i bawb sydd wedi rhoi arian i ymgyrch Katie. Mae pob un ohonoch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr 24/7. Pob lwc Katie – gobeithio y byddwch yn mwynhau'r her.”