Mae un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch codi arian yr Elusen Fy20 er cof am ei ffrind annwyl.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae'r Elusen wedi creu digwyddiad codi arian newydd, sef Fy20. Mae Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y byddant ei gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Mae John Scott, o Abertawe, yn codi arian er cof am Viv Thomas, a fu farw, yn drist iawn, ym mis Awst 2020.

Bydd John, sy'n dad-cu i ddau o blant, yn cerdded 20 milltir yn ystod mis Mawrth, a byddai wrth ei fodd pe bai'n gallu codi £1,000 i'r Elusen sy'n agos at ei galon. Hyd yn hyn mae John wedi codi'r swm syfrdanol o £665.

Mae'r ymgyrch hon hefyd yn ffordd i gadw'n heini i  John, ar yr un pryd â chodi arian i'r Elusen. Dywedodd: “Penderfynais gymryd rhan er cof am un o'm ffrindiau mwyaf annwyl, Viv Thomas, a fu farw y llynedd. Ar yr un pryd, roeddwn yn awyddus i gefnogi'r gwaith anhygoel y mae'r ambiwlans awyr yn ei wneud. Roedd Viv Thomas yn ffrind annwyl i'r teulu, a byddem yn treulio'r gwyliau a'r haf gydag ef yn aml iawn. Roedd Viv yn briod â Mary ac mae tair merch hyfryd ganddynt - maent wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan bwysig o fy mywyd a bywyd fy nheulu.

“Rydym wedi bod yn codi arian fel cymuned yn Bank Farm, ym mhenrhyn Gŵyr, am y 14 mlynedd diwethaf. Bum yn rhedeg Clwb Preswylwyr Bank Farm ar y cyd ag aelodau eraill o'r clwb, ac rydym wedi cefnogi nifer o elusennau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, ac wedi codi dros £200,00. Ym mhenrhyn Gŵyr, rydym bob amser wedi bod yn awyddus i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ond yn drist iawn, roedd angen galw arnynt i helpu Viv ym mis Awst 2020, a gafodd ei gludo i Ysbyty Treforys, ond a fu farw, yn anffodus.

“Ar y diwrnod hwnnw ym mis Awst, pan roedd angen galw'r Ambiwlans Awyr i helpu Viv, ni faswn i erioed yn fy mywyd wedi meddwl y byddai angen ei help ar un o'm ffrindiau agosaf. Drwy gymryd rhan yn hyn a chefnogi'r Ambiwlans Awyr, rwy'n gobeithio creu gwaddol hyfryd i'm ffrind mwyaf annwyl, Viv. Mae hefyd yn ein hatgoffa na wyddom beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ac efallai y bydd angen i ni alw ar wasanaethau'r ambiwlans awyr ryw ddiwrnod.”

Hoffai teulu Viv Thomas ddiolch i'r ambiwlans awyr a'r GIG am yr holl gymorth a roddwyd i Viv.

Wrth feddwl am bwysigrwydd yr elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau, dywedodd John: “Mae'r ambiwlans awyr yn bwysig iawn, ac mae'n darparu gwasanaeth hanfodol i'r GIG. Am fod carafán gyda ni ym mhenrhyn Gŵyr, rydym wedi gweld yr ambiwlans awyr yn cael ei alw i helpu aelodau o'r cyhoedd sawl gwaith, ac maent wedi helpu i achub bywydau llawer o bobl.”

Dywedodd merch John, Amanda Hughes, yn llawn balchder:  “Mae dad yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Byddai unrhyw un sy'n adnabod dad yn dweud ei fod yn garedig iawn, gan roi pobl eraill yn gyntaf bob tro, a'i fod yn cefnogi pobl bob amser. Mae dad wedi profi nifer o heriau personol ei hun, ond mae wedi bod yno i ni bob amser, gan ein cefnogi ar adegau trist, a gan godi gwên arnom bob amser. Hoffem ddweud mai fy nhad yw fy arwr, ac rwyf mor falch ohono am yr hyn y mae'n ei gyflawni. Roedd dad wedi torri ei galon am farwolaeth Viv, ac rwy'n gwybod bod hyn yn werth y byd iddo, sef gallu gwneud rhywbeth er cof am ffrind gwych. Rwy'n gwybod y bydd Viv gyda fy nhad bob cam o'r ffordd.”

Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De:  “Diolch o galon i John am gymryd rhan yn ein hymgyrch codi arian Fy20. Mae John wedi penderfynu cerdded 20 milltir er cof am ei ffrind Viv, sy'n ffordd wych o gofio rhywun a oedd yn agos ato. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi noddi John. Rydym yn gobeithio y bydd yn mwynhau cwblhau ei her Fy20.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i John, sydd wedi bod yn gweithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru ers 10 mlynedd, drwy ei noddi drwy ei dudalen Just Giving, sef 20 Miles in March in Memory of Viv Thomas.