Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2024

Mae joci o'r cymoedd wedi bod yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru eleni ac wedi codi dros £1,700.

Mae Conor Ring, o Bont-y-clun, wedi cefnogi'r Elusen mewn ffordd unigryw – drwy hyrwyddo brand yr Elusen ar gyfer Cymru gyfan ar draws ei wisg rasio, yn hytrach na busnes.

Daeth y syniad unigryw i fodolaeth ar ôl i Conor, sy'n joci amodol, geisio chwilio am noddwr. Cynigiodd y dyn busnes, Féilim O Muiri, noddi Conor a chynnig y syniad o ddefnyddio ei ofod noddi i hyrwyddo elusen.

Cafodd defnyddio logo'r Elusen ei gymeradwyo gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ac wrth egluro pam yr hoffai gefnogi'r elusen, dywedodd Conor: "Meddyliodd Féilim y byddai'n syniad da i arddangos logo'r elusen ar fy ngwisg rasio i roi cyhoeddusrwydd iddi a helpu i godi arian. Mae'n beth cyffredin i jocis arddangos logos busnesau ar eu gwisg oherwydd fel jocis, rydym yn teithio i gymaint o gyrsiau rasio ledled y DU ac yn cwrdd â llawer o bobl. Rydym hefyd ar y teledu'n aml a gall miliynau ein gweld, ond dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wneud i elusen.

"Diolch yn fawr iawn i Féilim am y syniad, ac rwy'n siŵr y bydd llawer mwy o bobl yn gwneud hyn yn y dyfodol. Penderfynom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd roeddem yn teimlo ei bod hi'n elusen bwysig iawn, ac mae'n hawdd i bobl anghofio am y bywydau y byddant yn eu hachub bob dydd. Mae angen cefnogi elusen Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd efallai rhyw ddiwrnod bydd angen ei help arnom ni."

Aeth Conor, sy'n gweithio i Evan Williams yn hyfforddi ceffylau rasio ym Mro Morgannwg, â'i gefnogaeth gam ymhellach pan gamodd oddi ar y cwrs rasio a gwisgo ei esgidiau rhedeg, a chwblhau'r Marathon Loch Ness yn ôl ym mis Hydref.

Dyma'r tro cyntaf Conor redeg marathon a chodi arian. Dywedodd: "Roeddwn eisiau helpu i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru felly es ati i greu tudalen i godi arian a llwyddais i godi £1,746. Hwn oedd y tro cyntaf i mi godi arian i elusen. Roedd yn brofiad gwych ac rwy'n siŵr y byddaf yn cwblhau un arall eto."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Roedd y syniad gan Féilim i hyrwyddo elusen yn hytrach na busnes ar wisg rasio Conor yn un hyfryd a hael. Mae'r Elusen yn hynod ddiolchgar i Féilim a Conor am gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy gydol y flwyddyn. Aeth Conor â hyn gam ymhellach drwy redeg ei farathon cyntaf erioed i godi arian ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau gan godi swm anhygoel o £1,746. Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen codi £11.2 miliwn pob blwyddyn er mwyn parhau i achub bywydau, ac oherwydd y cyhoeddusrwydd a'r arian a godwyd drwy Féilim a Conor, maent yn helpu'r elusen i barhau i achub bywydau ledled Cymru."

"Dymunwn bob llwyddiant i Conor wrth iddo fentro i mewn i dymor newydd a diolch iddo ef ac i Féilim am eu cefnogaeth barhaus."

Hoffai'r Elusen a Conor hefyd ddiolch i gyrsiau rasio Ffos Las a Chas-gwent sydd wedi rhoi tudalen am ddim yn eu cerdyn rasio ar fwy nag un achlysur i gefnogi'r achos.