Mae dynes ysbrydoledig o Lwyngwril wedi gosod her anhygoel iddi'i hun i golli pwysau a chodi arian i elusen ar yr un pryd.

Gwnaeth Jill addewid i roi £5 mewn tun casglu ar gyfer pob pwys y byddai'n ei golli i'w chymell i golli pwysau. Hyd yma, mae Jill wedi llwyddo i godi £1,100 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy golli naw stôn - sy'n anhygoel!

Mae Jill, sy'n 54 oed, wedi cael ei chefnogi gan Jane Jenkins, landlord ei thafarn leol ynghyd â'r staff a'r cwsmeriaid. Mae tafarn Y Garthangharad wedi cyfrannu at her codi arian Jill drwy osod tuniau casglu i Ambiwlans Awyr Cymru ar y barrau.

Gwnaeth cwsmeriaid y dafarn hefyd ei noddi i golli ei dwy stôn olaf, er mwyn helpu Jill i gyrraedd ei phwysau targed. Mae ganddi 17 pwys ar ôl i'w golli cyn cyrraedd ei tharged o golli 10 stôn, ac mae Jill yn gobeithio gwneud hynny erbyn 31 Mawrth 2022.

Dywedodd Jill, yn llawn balchder: “Ers cychwyn ar fy antur colli pwysau, rwy'n hapusach, iachach, mwy hyderus ac yn mwynhau byw bywyd braf.  Rwy'n cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd egnïol, llawn hwyl bob wythnos, wedi ymuno â grŵp cerdded cŵn a hefyd mae gen i feic ymarfer yn fy ystafell fyw rwy'n mwynhau ei ddefnyddio bob dydd.  

"Bellach, does gen ddim ofn cymryd rhan mewn digwyddiadau a fyddai wedi codi braw arna i yn y gorffennol, ac rwy'n mwynhau heriau ac anturiaethau newydd erbyn hyn.   Mae fy newisiadau bwyd yn fwy anturus ac rwy'n mwynhau coginio prydau cartref hyd yn oed ar ôl dyddiau prysur iawn.  Mae fy nillad erbyn hyn yn fwy lliwgar ac o steil gwahanol - dim mwy o ddu i mi, ac rwy'n hoff o fy steil gwallt newydd a'r lliw.  Nid dim ond siâp a maint fy nghorff sydd wedi newid, ond mae fy lefel ffitrwydd a'm hystum yn llawer gwell.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Wrth feddwl am yr anogaeth y mae wedi'i dderbyn drwy gydol ei her i golli pwysau a chodi arian, ychwanegodd Jill: “Mae'r gefnogaeth rwyf wedi ei chael wedi bod yn anhygoel ac wedi fy annog i barhau â'r her yn ystod y cyfnodau anodd pan nad oeddwn ond yn colli ychydig bwysau, os o gwbl. Rwy'n gwbl hyderus yn fy ngallu i gadw at golli pwysau a chadw at fy ffordd o fyw newydd unwaith y byddaf wedi cyrraedd fy nharged.”

Dywedodd Louise Courtnage, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau enfawr i Jill ar golli naw stôn, sy'n anhygoel. Nid yn unig y gosododd Jill darged iddi ei hun i golli pwysau, ond roedd hefyd yn awyddus i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am bob pwys y byddai'n ei golli.

"Mae Jill wedi codi swm anhygoel i'n helusen sy'n achub bywydau a dylai fod yn hynod falch ohoni ei hun. Diolch yn fawr hefyd i Jane Jenkins a phawb o dafarn Y Garthangharad am fod mor gefnogol iddi a'i hannog i gyrraedd ei tharged, yn ogystal â chasglu arian tuag at her codi arian Jill. Mae rhoddion fel hyn yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”

Gwnaeth tafarn Y Garthangharad, sydd wedi bod yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ers mis Tachwedd 2020, gynnal cwis Nadolig er budd yr Elusen sy'n achub bywydau. Bydd y dafarn yn parhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy gydol 2022.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Jill gan gyfrannu at ei her codi arian drwy fynd i’w thudalen Just Giving ‘Weigh to go’