Bydd rhywun sy'n hoff iawn o'i sgwter yn gyrru mwy na 950 o filltiroedd i godi arian i elusen.

Nod Jason Ude, 50 oed, o'r Barri yw cwblhau'r her a fydd yn anodd yn gorfforol ac yn feddyliol er budd Ambiwlans Awyr Cymru mewn llai na 24 awr.

Bydd Jason yn gadael Castell Caerdydd ar ei her 24 awr ar 10 Gorffennaf a bydd ond yn stopio i gael tanwydd a seibiant. Bydd yn teithio i Sgwâr Trafalgar, Llundain, yna ymlaen i Gaeredin, cyn dychwelyd i Gymru ar ei sgwter Vespa 3.

Dyw'r her anhygoel hon ddim yn newydd i Jason – aeth ar yr un daith y llynedd a chododd bron £1,300 i Breast Cancer Now.

Teithiodd Jason 956.5 milltir y llynedd, gan ymweld â phrifddinasoedd Cymru, Lloegr a'r Alban, mewn cyn lleied â 19 awr a 20 munud. Dywedodd: “Rwy'n gobeithio gwneud yr un peth eto mewn 21 awr neu o dan yr uchafswm amser a ganiateir, sef 24 awr, i'w gwneud yn her anoddach.

Mae wedi pennu targed codi arian o £2,000 ac mae eisoes wedi codi £520 i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd bellach yn wasanaeth 24/7 ac y mae angen iddi godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn parhau i achub bywydau ledled Cymru.

Wrth feddwl am y rheswm dros ddewis yr Elusen, dywedodd: “Rwyf wedi dewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod yn dibynnu'n fawr ar roddion ariannol, felly penderfynais gyfrannu. Mae'r gefnogaeth rwyf wedi'i chael gan fy nheulu, ffrindiau a'r gymuned wedi bod yn wych.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her eleni, i gael cychwyn ar fy nhaith yn gwneud rhywbeth rwy'n ei garu, a gan godi arian i achos gwych.”

Dywedodd Wendy McManus, swyddog codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i Jason, sydd wrth ei fodd yn codi arian i elusen. Rydyn ni wrth ein boddau ei fod eleni wedi dewis codi arian i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau. Mae'r Elusen yn wasanaeth 24/7 bellach ac am ffordd addas o godi arian i'r Elusen drwy wynebu her y mae Jason yn gobeithio ei chwblhau o fewn 24 awr.

“Rydyn ni'n dymuno'n dda iddo ar ei daith a gobeithio y bydd y cyhoedd yn parhau i'w gefnogi yn ei ymgyrch codi arian. Diolch i bawb sydd wedi rhoi hyd yma. Pob lwc a byddwch yn ddiogel.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.