Mae pryf llyfr o ardal Bancyfelin wedi codi dros £300 hyd yma ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn ei hymdrech gyntaf i godi arian ar gyfer elusen.

Mae Isla Wilson, sy'n chwech oed, yn cymryd rhan yn her Fy20 yr Elusen ac mae wedi dewis darllen 20 llyfr mewn 20 diwrnod yn ystod mis Mawrth.

Bydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae wedi creu digwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Mae Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan drwy osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y byddant yn eu cwblhau yn ystod mis Mawrth.

Mae'r disgybl o Ysgol Bancyfelin yn hoff iawn o ddarllen llyfrau i'w chwaer iau, Ailish, sy'n bedair oed, ac mae wedi dewis cyfres o lyfrau Cymraeg a Saesneg i'w darllen.

Mae rhai o'r llyfrau y mae Isla wedi dewis eu darllen yn cynnwys – The Elves and the Shoemaker, Peter Rabbit, We're Going on a Bear Hunt, The Three Billy Goats Gruff, Chicken Lickin' a Rapunzel.

Roedd Isla wedi rhoi targed iddi ei hun i godi £50 ac mae eisoes wedi llwyddo i godi mwy na'i tharged drwy godi £330 ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau – cyn i'w gweithgarwch codi arian ddechrau hyd yn oed.

Mae Isla wedi cael llawer o gefnogaeth gan ei ffrindiau, ei theulu a'i hysgol. Mae'r pryf llyfr bach hefyd wedi bod yn darllen llyfrau i deulu a ffrindiau yn rhithwir er mwyn paratoi.

Wrth drafod pam ei bod hi'n codi arian ar gyfer gwasanaeth 24/7 yr elusen, dywedodd Isla: “Rydw i am helpu i gadw'r ambiwlans awyr yn effro drwy'r nos. Maen nhw'n helpu llawer o bobl.”

Dywedodd ei dad, Tom Wilson: “Rydym yn falch iawn bod Isla yn awyddus i godi arian ar gyfer yr ambiwlans awyr. Mae Isla a'i chwaer bob amser wedi mwynhau gweld yr ambiwlans awyr, ond dim ond yn ddiweddar mae wedi sylweddoli pa mor bwysig yw'r gwaith y mae'r meddygon yn ei wneud. Ni allwn gredu ei bod hi wedi codi dros £300 yn barod, yn enwedig gan mai dyma'r tro cyntaf iddi godi arian. Rydym yn edrych ymlaen at wrando arni'n darllen drwy gydol yr her.”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Mae'n hyfryd bod Isla, a hithau mor ifanc, yn deall gwaith pwysig Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n glir ei bod hi am gymryd rhan yn her Fy20 oherwydd mae'n helpu'r rheini mewn angen, sy'n dangos ei thosturi tuag eraill a'i bod yn meddwl am bobl eraill. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn cydnabod hyn ac yn cyfrannu at ei gweithgarwch codi arian, fel y mae llawer o bobl wedi'i wneud eisoes.

“Diolch yn fawr iawn am ein cefnogi ni, Isla. Bydd pob ceiniog a godir yn helpu'r bobl sydd ein hangen. Mae hynny'n golygu dy fod yn achub bywydau.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Isla drwy ei noddi drwy ei thudalen Just Giving – Isla's Fy20/My20.

I gael rhagor o wybodaeth am her #FY20 ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.