Isla yn Codi £500 i Elusen sy'n Achub Bywydau Mae merch ysgol chwech oed wedi codi £500 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy ddarllen 20 llyfr mewn 20 diwrnod yn ei hymdrech gyntaf i godi arian ar gyfer elusen. Roedd y pryf llyfr, Isla Wilson, o bentref Bancyfelin, wedi rhoi her iddi ei hun fel rhan o'n hymgyrch codi arian Fy20 yr elusen sy'n achub bywydau. Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, creodd yr elusen ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Roedd Fy20 yn galluogi cyfranogwyr i osod her, tasg neu weithgaredd iddynt eu hunain sy'n ymwneud â'r rhif ‘20’ y gallent ei gwblhau yn ystod mis Mawrth. Mae'r disgybl o Ysgol Bancyfelin yn hoff iawn o ddarllen llyfrau i'w chwaer iau, Ailish, sy'n bedair oed, ac fel rhan o'i hymdrech codi arian, darllenodd amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Roedd rhai o'r 20 o lyfrau yn cynnwys, ‘The Three Billy Goats Gruff’, ‘When the World Made a Rainbow’, ‘Chicken Lickin’’, ‘Yr Eliffant Eithaf Digywilydd’ a ‘Why We Can’t Hug’. Roedd Isla wedi gosod targed o £50 iddi ei hun, ac roedd wrth ei bodd pan gafodd gyfraniadau gan ei hathrawon, ei ffrindiau ysgol, ei theulu a phobl sy'n byw yn y pentref, sydd wedi'i leoli rhwng Caerfyrddin a Sanclêr. Roedd rhai hefyd wedi postio cardiau drwy'r blwch llythyrau yn dweud wrthi ei bod yn gwneud her hyfryd. Cafodd ei hymdrechion eu gwerthfawrogi'n fawr yn genedlaethol hefyd, gyda Scott Quinnell o BBC Radio Wales yn ei ffonio i gyfweld â hi ar gyfer sioe Wynne Evans. Wrth siarad am ei hymdrech codi arian, dywedodd Isla: “Mae'r ambiwlans awyr yn helpu llawer o bobl. Darllenais lyfr i bawb yn fy nosbarth a chefais sticer gan yr athro. Roedd fy ffrindiau yn llawn cyffro pan oeddwn i ar y radio.” Roedd hoff lyfrau Isla yn ystod yr her yn cynnwys ‘When the World Made a Rainbow’, ‘Diwrnod Cyntaf Douglas Yn Yr Ysgol’ a ‘Dick Whittington’. Dywedodd ei thad balch, Tom Wilson: “Mae darllen 20 llyfr mewn 20 diwrnod yn rhywbeth na fyddai llawer ohonom yn meddwl ei wneud i godi arian. Rwy'n falch iawn bod Isla wedi meddwl am y syniad i ddechrau ac wedi dal ati, yn enwedig am ei bod mor ifanc, ac am godi llawer mwy na'i tharged codi arian. “Mae'r plant wedi wynebu sawl her dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae bod mor benderfynol o wneud rhywbeth mor gadarnhaol ar ôl y cyfyngiadau symud, yn galonogol iawn. Da iawn cariad bach.” Hoffai teulu Isla ddweud diolch wrth bawb sydd wedi'i chefnogi, yn enwedig ei hysgol, a oedd wedi'i hannog drwy gydol yr her. Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Rydym yn falch iawn bod Isla wedi llwyddo i ragori ar ei tharged codi arian ar gyfer her Fy20. Roedd yn gamp wych, yn enwedig i ferch chwech oed. Roedd Isla am gyflawni'r her hon am ei bod yn gwybod y byddai'n helpu pobl. Mae hynny'n dangos tosturi rhyfeddol am rywun mor ifanc. Diolch yn fawr iawn, Isla. Bydd yr hyn rwyt ti wedi'i wneud, a'r arian rwyt ti wedi'i godi, yn ein helpu ni i helpu eraill.” Gallwch noddi Isla o hyd drwy ei thudalen Just Giving – Isla's Fy20/My20. Manage Cookie Preferences