Rhoddodd ifaciwî o gyfnod y rhyfel, Eileen Webb, a fu farw ym mis Hydref 2020, anrheg anhygoel i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru o £58,000 yn ei Hewyllys.

Cafodd Miss Webb ei geni yn Kingston, Surrey, yn y 1930au hwyr. Symudodd i Gymru fel plentyn bach pan gafodd ei thad, a oedd yn aelod o'r lluoedd arfog, ei leoli yng Ngwersyll Penrhyn yn Sir Benfro.

Bu'r teulu hefyd yn byw yn Ynys Wyth ac yn Surrey cyn dychwelyd i Sir Benfro yng nghanol y 1970au.

Dewisodd Eileen Cliff Sharp fel un o Ysgutorion ei hystad. Roedd yn ffrind agos i Miss Webb. Disgrifiodd ef eu perthynas fel un rhwng brawd a chwaer. Gweithiodd Miss Webb iddo yn ei brif siop, Kiel House Stores, am 30 mlynedd.

Helpodd Cliff, a ddisgrifiodd Eileen fel “gweuwraig ardderchog”, gyda'r gwaith o reoli ei bywyd. Caiff ei chofio fel gwraig a oedd yn hoff o gathod ac yn “llawn hwyl”.

Wrth siarad yn annwyl amdani, dywedodd: “Roedd cymaint o hwyl i'w gael gydag Eileen. Roedd yn tynnu coes yn ddiddiwedd ac ni waeth pwy oeddech chi neu p'un a oedd yn eich adnabod ai peidio, roedd yn barod gyda'i hiwmor. Roedd pobl yn ei gweld hi'n ddoniol. Roedd hi'n deyrngar i'w theulu ac edrychodd ar ôl ei mam tan i'w hiechyd hithau waethygu ond gwnaeth ei mam fyw tan yn 102 mlwydd oed. 

“Yn anghyffredin, yn henaint Eileen dilynodd rasio Formula One ar y teledu, ac fel person ifanc roedd hi wedi mwynhau teithio ar y piliwn ar feiciau modur.”

Yn ogystal â gadael y swm anhygoel hwn o arian i'r elusen sy'n achub bywydau, roedd Eileen mor garedig â gadael cymunrodd o £58,000 i Neuadd Gymunedol Dinas yn Sir Benfro. Cafodd ei disgrifi fel “merch ei milltir sgwâr” gan Cliff, ac roedd hi'n “hapus iawn yn bennaf gyda'i chwmni ei hun.”

Ychwanegodd Cliff: “Ni ddywedodd Eileen erioed pam  gwnaeth hi roi rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru; ni welsom ei Hewyllys tan iddi farw. Gwyddom ei bod n edmygu eu gwaith ac yn gwerthfawrogi'r angen am y gwasanaeth yn yr ardal wledig hon a dywedodd, gan dynnu coes, ‘Wyddoch chi byth os bydd ei angen arna i.’

“Byddai hi'n hapus iawn gwybod bod ei rhoddion i Elusen Ambiwlans Awyr a'r rhodd gyfatebol i Ganolfan Gymunedol Dinas yn gwneud lles i eraill ac yn gwneud gwahaniaeth.” 

Ar y diwrnod a fyddai wedi bod yn benblwydd Eileen yn 84 oed ymunodd Wendy McManus, Ambiwlans Awyr Cymru, â chyfeillion, pentrefwyr, a chynrychiolydd o'r Hen Ysgol a ymgasglodd i nodi ei bywyd a'i haelioni drwy blannu coeden afalau er cof amdani. Gwnaeth y rhai a oedd yno hefyd fwynhau te penblwydd er cof am eu cyfaill absennol.

Dywedodd Wendy McManus, Swyddog Codi Arian Cymynroddion Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd Eileen yn hael iawn n gadael rhodd yn ei Hewyllys i Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym wedi ein syfrdanu yn llwyr gan y rhodd. Mae'n drueni na wnaethom gwrdd ag Eileen, ond mae'n glir o'i haelioni i'r Elusen a'r neuadd gymunedol pa fath o gymeriad ydoedd.

“Mae Rhoddion mewn Ewyllysiau, waeth pa mor fawr neu fach, yn hynod bwysig i ni ariannu ein pedwar hofrennydd a'r cerbydau ymateb cyflym ledled Cymru. Bydd rhodd Eileen yn sicrhau y bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i wasanaethu pobl Cymru 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd ei rhoddion yn sicr yn parhau drwy'r bobl niferus y gallwn eu helpu.”