Mae athro ysgol gynradd sydd wedi ymddeol wedi codi £5,578 i elusen ar ôl cwblhau ei daith gerdded elusennol o 1,067 o filltiroedd o gwmpas Cymru.

Gwnaeth Huw Evans o Landudoch, osod yr her iddo ei hun i gerdded o gwmpas Cymru ar ei her Llwybr 66 o fewn 70 diwrnod er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.

Er gwaethaf y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau, llwyddodd Huw (sy'n dad-cu i ddau o blant) gyflawni'r her mewn 71 o ddiwrnodau.

Yn ystod y 29 diwrnod cyntaf, cerddodd Huw o Poppit Sands i Brestatyn. Bu'n rhaid cwblhau gweddill y daith gerdded mewn camau o ganlyniad i gyfnodau clo cenedlaethol a lleol.

 

Fel rhan o'r Llwybr 66, cerddodd Huw o gwmpas Cymru ar hyd llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Mae ei ymdrechion yn amlwg iawn – hyd yma, mae wedi codi £3,925 i Ambiwlans Awyr Cymru a £1,653 arall i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.

Penderfynodd Huw (sy'n hanu o Gwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin) ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o’r elusennau i godi arian iddi gan mai ‘dim ond drwy roddion y caiff ei hariannu ac mae’n darparu gwasanaeth trosglwyddo Ambiwlans Awyr Cymru i Blant’.

Dywedodd: “Hefyd, rwyf wedi eu gweld ar waith yn agos iawn pan ddioddefodd fy nghymydog anaf difrifol iawn i'w ben a goroesi – diolch i'r driniaeth gyflym ond digynnwrf a gafodd a pha mor gyflym y cafodd ei drosglwyddo i'r ysbyty.”

Mae cyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Uwchradd Aberteifi yn falch iawn ei fod wedi codi cymaint o arian ac wedi cyflawni'r her, sef rhywbeth y mae wedi bod yn awyddus i'w wneud ers deng mlynedd.

Dywedodd: “Mae'n deimlad da cyflawni her a ddaeth i'r meddwl tua deng mlynedd yn ôl, ac mae'r ffaith fy mod wedi ymddeol yn ddiweddar wedi fy ngalluogi i'w chyflawni. Mwynheais y profiad yn fawr iawn, a'r golygfeydd amrywiol ond trawiadol y mae arfordir Cymru a Chlawdd Offa yn eu cynnig.

“Cefais y cyfle i gwrdd â nifer o bobl garedig a hael ar hyd y daith, yr oedd llawer ohonynt yn fwy na pharod i roi arian i un elusen neu'r ddwy ohonynt .”

Mae Huw bellach yn bwriadu ymlacio am ychydig ddyddiau cyn gweithio ar ei ardd anniben!

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin: “Diolch yn fawr iawn i Huw am godi arian ar gyfer dwy elusen bwysig. Ar ôl deng mlynedd o aros i wneud yr her, mae wedi'i chyflawni ac wedi codi mwy na £5,500, sy'n anhygoel.

“Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, daliodd Huw ati ac roedd yn benderfynol o godi arian yr oedd mawr ei angen ar gyfer yr elusennau. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi arian i ymgyrch Huw neu sydd wedi ei gefnogi ar hyd y ffordd. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Traed lan nawr Huw – chi'n haeddu seibiant!"

Mae dal cyfle i gefnogi Huw drwy roi arian drwy ei dudalen Just Giving 'Huw Evans ROUTE66 CYMRUWALES'.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.