Her neidiau gwasg 24 awr Callum yn Codi Mwy na £4k ar gyfer Elusen sy'n Achub Bywydau Mae dyn o Lanelli wedi cwblhau gweithgaredd codi arian y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei osgoi, sef her neidiau gwasg 24 awr, sydd wedi codi swm anhygoel o fwy na £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Gwthiodd Callum, sy'n 20 oed, ei lefelau ffitrwydd i'r eithaf i gwblhau 150 o neidiau gwasg yr awr ar gyfer y 13 awr gyntaf ac wedyn 100 o neidiau gwasg bob awr am weddill yr her. Roedd yn awyddus i ddangos ei gefnogaeth ar ôl gweld Ambiwlans Awyr Cymru yn cynorthwyo ffrind agos. Ac yntau'n gobeithio codi £100 i'r Elusen, dechreuodd Callum yr her am hanner nos ddydd Gwener 15 Ionawr a chyflawnodd ei naid wasg olaf am 11pm. Dywedodd Callum yn llawn balchder ond wedi blino'n llwyr: “Penderfynais wneud 150 o neidiau gwasg bob awr am 24 awr i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod yn elusen sy'n agos at fy nghalon, gan fy mod i wedi adnabod nifer o bobl sydd wedi dibynnu arni yn y gorffennol. “Mae'r elusen hon yn achub cynifer o fywydau ac, ar ôl gweld yr elusen yn cynorthwyo ffrind agos, roeddwn i'n awyddus i wneud her a fyddai'n helpu i godi arian.” Wrth drafod y rheswm dros ddewis gwneud yr her hon, dywedodd y gwneuthurwr ffenestri: “Dewisais y gweithgaredd penodol hwn i godi arian am fy mod i'n gwybod y byddai'n dasg fawr. O wybod am yr holl waith anhygoel y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn, roeddwn i'n awyddus i wthio'r ffiniau. “Nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor anodd y byddai'r her yn gorfforol. Llwyddais i wneud y 13 awr gyntaf ond yna bu’n rhaid i mi leihau nifer y neidiau gwasg o 150 i 100 am yr amser a oedd yn weddill oherwydd yr effaith yr oedd yn ei chael ar fy nghorff.” Mae Callum, sy'n gobeithio ymuno â'r Llynges Frenhinol, eisoes wedi codi £4,085 ac fe'i cefnogwyd drwy gydol yr her gan ei deulu a'i gariad Kirsten Field. Mae Callum yn aelod o gampfa Evolution yn Cross Hands, lle mae Kirsten yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd. Cwblhaodd Kirsten awr olaf yr her gyda Callum. Dywedodd: “Roeddwn i mor falch o'r arian rydym wedi gallu codi yn ystod yr her hon. Ar ôl meddwl yn wreiddiol mai dim ond cwpl o gannoedd y byddwn i'n ei godi, mae'r cyfanswm dros £4,000! “Mae'r ymateb a'r gefnogaeth a gefais gan fy nheulu a ffrindiau wedi bod yn anhygoel, yn ogystal â fy nghariad a arhosodd yn effro a pharhau i'm cefnogi drwy'r cyfnod. Roeddwn yn wirioneddol ddiolchgar iddynt ar y diwrnod am fy nghefnogi, a byddaf am byth!” Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau Callum ar gyflawni'r her enfawr a blinedig hon. Mae cwblhau neidiau gwasg am ychydig oriau yn gamp enfawr i'r goreuon yn ein plith – ond mae gwneud hynny am 24 awr yn arbennig ac yn dangos ymrwymiad a phenderfyniad Callum. Mae'n briodol bod yr her hon dros 24 awr am ei bod yn adlewyrchu'r ffaith bod ein gwasanaeth bellach yn gweithredu 24/7. “Diolch o galon am godi arian i'n helusen sy'n achub bywydau a diolch yn fawr i bawb a gefnogodd Callum yn ystod yr her.” Mae amser o hyd i ddangos eich gwerthfawrogiad i Callum – gallwch roi arian drwy ei dudalen Just Giving, sef 'Callum's 24-hour burpee challenge'. www.justgiving.com/fundraising/callums24hourburpees Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, fel Callum. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com. Manage Cookie Preferences