Hoffai Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ddiolch i bawb a gefnogodd Ymgyrch Her Nadolig Big Give ar ôl codi £21,389 drwy roddion ar-lein mewn dim ond saith diwrnod.

Cymerodd yr Elusen ran yn ymgyrch flynyddol codi arian cyfatebol Big Give am y tro cyntaf eleni ac mae wrth ei bodd ei bod wedi codi mwy na'r targed o £20,000.

Cynhaliwyd yr ymgyrch o hanner dydd, ddydd Mawrth 29 Tachwedd i hanner dydd, ddydd Mawrth 6 Rhagfyr a gwahoddodd Ambiwlans Awyr Cymru gefnogwyr i roi rhodd a chefnogi gwaith yr elusen sy'n achub bywydau.

Drwy gydol yr wythnos cafodd yr holl roddion a roddwyd i'r elusen eu dyblu - un rhodd a dwbl yr argraff.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd Her Nadolig Big Give yn ymgyrch ardderchog lle roedd pobl yn gallu gweld eu rhoddion yn cael eu dyblu.

"Ein nod oedd codi cyfanswm o £20,000, ond diolch i gefnogaeth y cyhoedd, busnesau a sefydliadau, gwnaethom lwyddo i gyrraedd ein targed codi arian mewn dim ond pum diwrnod.

“Rydym mor falch o'r cymorth a gawsom yn enwedig am mai dyma'r tro cyntaf i ni gymryd rhan yn Ymgyrch Nadolig Big Give.

“Bydd yr arian a godwyd yn yr Her Nadolig yn mynd tuag at gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru 24/7 pob diwrnod o'r flwyddyn.”

Y thema ar gyfer yr her oedd ‘Ein Harwyr Nadolig’. Gwnaeth yr Elusen yn amlygu meddygon, peilotiaid, dyranwyr a chriw, sydd i gyd wrth law dros y Nadolig, yn barod i ddarparu ymyriadau gofal critigol i'r sawl sydd mewn angen dros dymor y Nadolig.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn hynod ddiolchgar o dderbyn arian cyfatebol gan Ashmole & Co a The Charles Hayward Foundation sy'n cael ei hyrwyddo a'i hybu gan Candis Club.

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

 Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.