Mae her Elusennol y Corau wedi codi swm anhygoel o £3,412.78 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliodd Bluestone Brewing Company, sydd wedi'i leoli yng Nghilgwyn, Gogledd Sir Benfro, eu digwyddiad codi arian blynyddol lle bu chwe chôr lleol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. 

Dros y blynyddoedd, mae her y corau wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad cymunedol hwyliog a bywiog a doedd eleni ddim yn wahanol.

Decibelles, Bois Y Felin, Lleisiau Pentref Llangwm, Côr Cardi Gân, Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro a Choirs For Good Hwlffordd oedd y corau a gymerodd rhan.  Gofynnwyd i bob côr berfformio dwy gân o flaen cynulleidfa a phanel o feirniaid.

Anogwyd y chwe chôr i gael hwyl gyda'u caneuon a chafodd y gynulleidfa eu diddanu'n llwyr. Aeth pob côr i'r llwyfan a chanu nerth eu pennau er mwyn helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyflwynwyd y noson, a gynhaliwyd nos Sadwrn 24 Mehefin, gan y digrifwr stand-yp Steffan Evans, a roddodd o’i amser yn rhad ac am ddim.

Coronwyd The Decibelles yn Gôr y Flwyddyn Bluestone Brewing Co, a chipiwyd y tlws ar ôl perfformiad mawreddog o The Greatest Show o The Greatest Showman.

Codwyd y £3,412.78 drwy werthu tocynnau, elw'r bar, bwcedi rhoddion a chyfraniad gan Cegin Cwm Gwaun, a ddarparodd yr arlwyo ar gyfer y digwyddiad.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Bluestone Brewing Company wedi codi dros £15,000 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian.

Y micro-fragdy ecogyfeillgar, sydd wedi ennill llu o wobrau, a'r lleoliad digwyddiadau, yw'r bragdy cyntaf yn y byd i gael Achrediad Allwedd Werdd, sy'n wobr ryngwladol sy’n cydnabod busnesau amgylcheddol gynaliadwy.

Dywedodd Emily Hutchinson, Cyfarwyddwr Marchnata Bluestone Brewing Company: “Rydym mor falch o fod wedi codi £3,412.78 i’r Elusen eleni. Mae’n deimlad gwych gallu cyfrannu swm mor fawr o arian. Mae’r rhodd yn adlewyrchiad o’r gymuned hael iawn rydym yn byw ynddi.

“Wrth fyw mewn cymuned wledig, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwaith Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym mor ddiolchgar am y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud, a byddem yn wirioneddol ar goll hebddynt.

“Mae’r digwyddiad hwn yn un rydym yn edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Codi arian yw’r prif reswm am y digwyddiad, ond mae bob amser yn gyfle gwych i ddod â’r gymuned ynghyd a dathlu’r corau bendigedig sydd gennym yn yr ardal. Allwch chi fyth guro noson o ganu Cymraeg!”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi mwy na £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Dywedodd Hannah Bartlett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i Bluestone Brewing Company am gynnal digwyddiad arall o Her y Corau llwyddiannus ac am godi mwy na £3,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.  Nid yw eich cefnogaeth dros y blynyddoedd wedi mynd heb ei chydnabod.

“Mae ein helusen wir yn gwerthfawrogi’r £15,000 rydych wedi’i gyfrannu dros y 10 mlynedd diwethaf. Gyda’ch cefnogaeth gallwn barhau i wasanaethu'r Cymry pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, a hynny yn yr awyr neu ar y ffordd. Diolch o galon am eich teyrngarwch a’ch cefnogaeth barhaus.”