15/04/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig cyfle i'r cyhoedd 'gerdded' ychydig o dirweddau prydferthaf Cymru o gysur eu cartrefi eu hunain, wrth i'r Elusen lansio ei her codi arian newydd.

Mae'r her yn galluogi 'cerddwyr' i osod targed i'w hunain yn seiliedig ar y nifer o gamau y gallent eu cyflawni dros gyfnod o fis. Mae pob targed yn gyfwerth â thaith gerdded rhwng lleoliadau eiconig Cymru, a gellir cyflawni'r daith yn y cartref, yn yr ardd neu yn ystod ymarfer corff.

Mae’r dewisiadau fel a ganlyn:

 

  • 105,000 o gamau/52* o filltiroedd – Y Gelli Gandryll i Gastell Powis

 

  • 70,000 o gamau/35* o filltiroedd – Camlas Mynwy A Brycheiniog

 

  • 32,000 o gamau/15* o filltiroedd – Gŵyr i Benlle'r Castell

 

  • 19,000 o gamau/9* milltir – Llwybr Llanberis i gopa'r Wyddfa

Dim ond £5 fydd y gost i gymryd rhan yn yr her ac annogir y 'cerddwyr' i gasglu arian nawdd drwy JustGiving. Mae'n rhaid ei chwblhau rhwng dydd Llun 20 Ebrill a dydd Iau 21 Mai, a bydd pob cyfranogwr yn cael tystysgrif am ei ymdrechion.  Mae'n bwysig dilyn canllawiau'r Llywodraeth wrth ymgymryd â'r her hon.  

Dywedodd Steffan Anderson-Thomas, Arweinydd Digwyddiadau'r Elusen: "Wrth i Gymru frwydro yn erbyn pandemig Coronafeirws, mae gan ein Helusen rôl fawr i'w chwarae yn yr ymateb meddygol, ac mae ein hofrenyddion yn parhau i hedfan, diolch i haelioni anhygoel y cyhoedd yng Nghymru.  

"Mae cyfyngiadau presennol y Llywodraeth yn hanfodol bwysig. Fodd bynnag, mae'n golygu y byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol yn yr arian y gallwn ei godi i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Drwy gymryd rhan yn her 'Cerdded Cymru', gall pobl gynnal eu llesiant corfforol a'u llesiant meddyliol, yn ogystal â chefnogi parhad Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Os yw hwn yn rhywbeth yr hoffech chi ei wneud, gwisgwch eich esgidiau cerdded, eich esgidiau rhedeg neu'ch slipers a chymerwch ran yn her 'Cerdded Cymru'."

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i www.walesairambulance.com/walkwales.