Mae bachgen ysgol saith oed o Benllergaer wedi cychwyn ar her gerdded blwyddyn o hyd i Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddo gael ei ysbrydoli gan blentyn a gafodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig gan y Frenhines.

Fore dydd Calan, roedd Rhys Gough yn gwylio'r newyddion pan welodd stori Tobias Weller, 11 oed, sef y plentyn ieuengaf i gael cymeradwyaeth gan y Frenhines.

Dywedodd Kirsty, mam falch Rhys: “Roedd gan Rhys ddiddordeb mawr yn hyn a gofynnodd lawer o gwestiynau am godi arian. Roedd hefyd yn awyddus iawn i gwrdd â'r Frenhines! Gofynnodd a allai wneud rhywbeth tebyg i godi arian i elusen.Gwnaethom benderfynu y byddem yn ceisio cerdded pellter sy’n cyfateb i 2km y diwrnod drwy gydol 2022. Mae ein tŷ ni ar y llwybr hedfan o Ysbyty Treforys, felly byddwn yn gweld Ambiwlans Awyr Cymru yn rheolaidd. Awgrymais y dylem godi arian i'r Elusen ac roedd Rhys wedi synnu o glywed faint o arian mae'n ei gostio i gynnal y gwasanaeth.”

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dyma'r tro cyntaf i'r disgybl o Ysgol Gynradd Pontlliw godi arian a, hyd yma, mae wedi codi £380 o'i darged o £500 ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau. Mae Rhys yn gwisgo oriawr glyfar i olrhain ei weithgarwch bob dydd.

Yn ogystal â cherdded, mae Rhys yn ychwanegu at ei gamau drwy chwarae rygbi, ond y rhan fwyaf o'r amser mae mynd â'r ci am dro gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ei helpu i gyrraedd ei nod o 2km y diwrnod.

Ychwanegodd Kirsty: “Mae angen ei annog weithiau ar ddiwrnodau glawog, ond mae'n mwynhau'r her ar y cyfan. Mae ei ffrindiau a'i deulu wedi bod yn falch iawn o Rhys am wneud hyn i'r elusen.

“Erbyn diwedd mis Chwefror, roedd Rhys wedi cerdded cyfanswm o 290.44km eleni, sy'n cynnwys camau o ddydd i ddydd! Mae'n falch iawn o'i gyflawniad hyd yma.”

Dywedodd James Cordell, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i Rhys am dderbyn yr her anferth o gerdded bob diwrnod am flwyddyn gyfan i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Er ei fod mor ifanc, mae'n frwdfrydig ac mae'n benderfynol o gyflawni'r her i helpu eraill.

“Bydd unigolion fel Rhys sy'n codi arian yn helpu ein meddygon i barhau i fod yno i bobl Cymru 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Rhys drwy gyfrannu at ei dudalen Just Giving ‘Rhys walking challenge for 2022’