16/06/2020

Yn 70 oed, gellid maddau i chi pe baech am roi eich traed i fyny a myfyrio ar y saith degawd diwethaf – oni bai mai Linda Jeavons ydych!

Mae'r hen fam-gu o Benisarwaen, Gogledd-orllewin Cymru, wedi penderfynu y bydd hi'n dathlu ei pen-blwydd yn 70 oed drwy gerdded marathon bob dydd ym mis Mehefin ar gyfer dwy elusen – sef 30 o farathonau mewn mis!

Mae Linda eisoes wedi codi £921.45 o'i tharged o £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru.

Bob degawd, mae Linda, sy'n hanu o Fae Colwyn, yn dathlu ei phen-blwydd drwy gyflawni her – dyma fydd ei seithfed.

Ymhlith ei heriau pen-blwydd blaenorol mae rhedeg Marathon Llundain, dysgu reidio beic modur a phasio ei phrawf, cofrestru ar gyfer Ras yr Wyddfa a seiclo o Land’s End i John O’Groats.

Mae Linda bob amser wedi cadw'n heini ac mae'n mwynhau codi arian. Wrth sôn am y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'i helusennau. dywedodd: “Yn y gymuned wledig, mae llawer ohonom yn byw ymhell i ffwrdd o'r ysbyty, ac mae'r Ambiwlans Awyr yn gwneud gwaith gwych yn trin cleifion a'u cludo'n gyflym iawn i'r ysbyty y mae angen iddynt fynd iddo.”

Yn wreiddiol, roedd Linda yn bwriadu cyflawni'r her ar ddiwrnod ei phen-blwydd, sef Ionawr 27, ond mae'n ei chyflawni yn awr yn unol â'r cyfyngiadau symud.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r teulu fynd gam ymhellach i gyflawni her. Yn 2018, ei merch, Steff Jeavons, oedd y Prydeiniwr cyntaf i deithio o gwmpas y byd ar ei beic modur Honda.

Dywedodd Steff: “Mae mam yn gwneud yn wych – ni fu gen i amheuaeth am y peth. Mae ganddi allu anhygoel i gyflawni'r hyn y mae'n penderfynu ei gwneud, heb unrhyw ffwdan. Rydym i gyd yn falch iawn o'i chyflawniadau hyd yma,  er bod y ci yn ymddangos ychydig yn amharod i'w dilyn y dyddiau hyn. Wn i ddim pam!”

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae cwblhau marathon yn her enfawr i'r goreuon yn ein plith –  mae cwblhau 30 mewn 30 diwrnod yn anhygoel. Hoffem ddymuno'n dda i Linda gyda'i her a diolch yn fawr iddi am godi arian i ddwy elusen bwysig.”

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am her ddyddiol Linda, gallwch ddilyn ei chynnydd drwy ei thudalen Facebook – Walk Like a North Walian.

Gallwch roi arian drwy ei thudalen Virgin Money, Linda Jeavons Walking yma