Mae'r hen dad-cu 69 oed wedi cwblhau 31 o hanner marathonau mewn 31 diwrnod i helpu i godi arian ar gyfer dwy elusen Gymreig. 

Penderfynodd Alun Fuller, sydd hefyd yn cael ei alw'n ‘Crazy Al’ neu ‘Crazy Al the Jogfather’, godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Chanolfan Ganser Felindre. 

Dechreuodd ar ei her gyda Hanner Marathon Gwndy ar 1 Medi a chwblhaodd ei her drwy gwblhau hanner marathon Caerdydd ddydd Sul diwethaf (1 Hydref) mewn 2 awr ac 11 munud.  

Dechreuodd Alun, sy'n byw yn y Gwndy, redeg ym mis Tachwedd 2016 ar ôl bwlch o 30 o flynyddoedd. 

Yn 2017, rhedodd 12 marathon lawn mewn naw mis ar gyfer y ganolfan ganser ac yn 2019, cododd dros £4,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gwblhau 18 marathon mewn 12 mis. 

Dywedodd Alun, sy'n gweithio fel marchnadwr, ei fod wedi cwblhau ei hanner marathonau o amgylch ei swydd. Byddai naill ai'n codi'n gynnar yn y bore neu'n rhedeg 13.1 milltir yn y prynhawn neu gyda'r nos. Llwyddodd hefyd i berswadio rhai o'i ffrindiau i redeg gydag ef ar hyd y ffordd.

Er ei oedran, dywedodd na fyddai'n arafu am dipyn ac mae'n cynllunio mwy o heriau codi arian ar gyfer y dyfodol. 

Dywedodd y tad o bedwar: “Mae pobl yn fy ngalw i'n Crazy Al, am eu bod yn credu fy mod i'n hurt am wneud yr holl heriau gwirion, gwallgof hyn yn fy oedran i. Rwy wir yn mwynhau meddwl am y syniadau hyn a phan fydda i'n  gosod her, byddaf yn trio fy ngorau i wneud yn siŵr fy mod yn ei chwblhau.

“Mae rhai pobl yn fy oedran i yn dechrau arafu ond fydda i ddim yn stopio am dipyn. Mae gen i bum pâr o esgidiau rhedeg i'w defnyddio! Rwyf bob amser wedi mwynhau cadw'n heini ac roeddwn i'n arfer rhedeg gyda'r Chepstow Harriers ac yn chwarae rygbi i Gas-gwent, Magwyr, Rhosan ar Wy a Sain Silian.

“Chwaraeais rygbi nes oeddwn i'n 62 oed, ond unwaith y gwnes i roi'r gorau iddi, dechreuais redeg ar y ffyrdd, ac ymunais ag Undy and Kendrick Roadrunners. 

“Os bydd fy heriau gwirion yn helpu i godi arian ar gyfer achosion gwerth chweil, yna byddaf yn hapus i barhau â nhw!”

Yn ystod yr her, rhedodd Alun hanner marathon o Gastell i Gastell Caerffili, hanner marathon Llanelli a rhedodd 10km Bae Abertawe. Ond yn hytrach na dim ond rhedeg y 10km, cwblhaodd Alun ei daith redeg saith milltir ei hun i baratoi er mwyn cyrraedd ei darged dyddiol. 

Dywedodd: “Pan wnes i groesi'r llinell derfyn yn Abertawe, cefais sylw arbennig ac roedd rhai yn chwerthin o glywed am fy nhaith i baratoi. Roedd pawb mewn hwyliau da ac fe wnes i fwynhau'n fawr. Ar ben hynny, os byddaf yn codi ymwybyddiaeth o fy ngwaith codi arian, gwell fyth. 

“Pan ddechreuais i gyntaf ar yr her ar 1 Medi, roeddwn i'n poeni na fyddwn i'n gorffen. Roedd yn boeth iawn, a gosodais darged i gwblhau hanner marathon mewn tua 2 awr a 30 munud. Ar gyfartaledd, llwyddais i gwblhau pob un o'r 31 hanner marathon mewn tua 2 awr a 15 munud ar gyfartaledd.”

O ran rhedeg, mae Alun wedi gosod ychydig o reolau iddo'i hun; gwisgo dillad llachar a pheidio byth â gwisgo clustffonau. 

Dywedodd: “Rwy'n credu bod clustffonau yn tynnu sylw rhywun. Rwy'n hoffi clywed yr hyn sy'n digwydd o fy amgylch a chael blas ar awyrgylch y ras, y dorf yn gweiddi a churo dwylo i'r bobl sy'n galw eich enw neu'r gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae. 

“Rwyf bob amser yn gwneud yn siŵr o ddawnsio ychydig i'r gerddoriaeth a gwneud i bobl chwerthin, ac rwyf bob amser yn trio gwisgo dillad llachar i wneud yn siŵr fy mod i'n sefyll allan. Mae'n ychwanegu at yr hwyl!”

Hyd yn hyn, mae Alun wedi codi dros £1,100 i Ambiwlans Awyr Cymru ac £800 i Ofal Canser Felindre, drwy ddwy dudalen JustGiving. Ac yntau bellach wedi cwblhau ei her anferth, mae'n gobeithio y bydd pobl yn parhau i roi arian. 

Dywedodd: “Ni chaiff llawer o elusennau Cymru y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig sydd o fudd i bobl Cymru ac yn dibynnu ar roddion y cyhoedd. Roeddwn i'n rhedeg yng Nghonwy a daeth dynes ata i a diolch i fi am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. 

"Tynnodd sylw at ei phartner a dweud wrtha i fod yr Elusen wedi achub ei fywyd dim ond tair wythnos ynghynt.

“Gwnaeth hyn fy ysbrydoli i godi arian.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Alun: “Hoffwn ddiolch i'r holl bobl sydd wedi rhoi arian tuag at fy her wallgof, a'r holl bobl sydd wedi rhedeg yn gwmni i mi a fy nghefnogi ar hyd y ffordd.

“Cwblhau'r her yng Nghaerdydd, gyda'r awyrgylch hyfryd, y dorf ardderchog, a'r bandiau ar hyd y ffordd, oedd y ffordd orau o gwblhau fy her. Cefais fy synnu ar ôl gweld fy merch a fy ŵyr ar y diwedd yn ogystal â rhai o aelodau fy ngrŵp rhedeg. Diolch i bawb.”

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Alun am gwblhau ei her anferth ar gyfer ein Helusen. Mae rhedeg un hanner marathon yn gyflawniad ar ei ben ei hun, ond mae rhedeg 31 ohonynt mewn 31 diwrnod yn olynol yn anhygoel.

“Bydd eich gwaith codi arian yn helpu i gadw ein hofrenyddion yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, 24/7, 365 dydd o'r flwyddyn. Llongyfarchiadau a diolch am barhau i gefnogi ein Helusen.”

I gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ewch i Dudalen Just Giving Alun yma.