Dair blynedd yn ôl, treuliodd Simon Edmonds ei Nadolig yn gorwedd mewn gwely yn yr ysbyty yn gwella o anaf i'w ymennydd ar ôl iddo gael ei daro oddi ar ei feic gan yrrwr 'taro a ffoi' meddw ar Noswyl Nadolig. 

Ni fu modd i'r taid i ddau gael unrhyw ymwelwyr oherwydd pandemig COVID-19, a'i unig gyswllt oedd galwad fideo gyda'i deulu ar Ddydd Nadolig. 

Diolch i Ambiwlans Awyr Cymru, mae yma heddiw i adrodd yr hanes ar ôl i'r criw roi gofal critigol ar ochr y ffordd iddo cyn ei gludo i'r ysbyty. 

Roedd Simon, 63 oed, wedi mynd allan ar ei daith feicio ddyddiol amser cinio ar 24 Rhagfyr 2020. Mae'n cofio ei bod hi'n ddiwrnod braf, a'i fod wedi penderfynu manteisio ar yr heulwen yn dilyn yr holl dywydd diflas a oedd wedi ei gadw dan do ar ei beiriant melin draed am y rhan fwyaf o'r wythnos. 

Nid oedd ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd o'i gartref yn y Fenni pan gafodd ei daro o'r cefn a'i daflu 
ar fonet y car cyn taro ei ben ar y llawr. 

Diflannodd gyrrwr y car oddi yno, ond yn ffodus i Simon, roedd meddyg oddi ar ddyletswydd yn y rhes o geir y tu ôl iddo a ddaeth i'w helpu. Daeth yr heddlu o hyd i'r gyrrwr yn ddiweddarach, a chafodd ei erlyn. 

Dywedodd Simon: "Daeth dau hofrennydd i'm helpu, a chafodd fy mrest ei draenio ar ochr y ffordd er mwyn ail-lenwi fy ysgyfaint cyn i mi gael fy nghludo i Ysbyty Athrofaol Cymru. 

"Roedd y rhan fwyaf o fy asennau chwith wedi torri, roedd fy ysgyfaint wedi ymgwympo, roedd pont fy ysgwydd wedi torri, ac roeddwn wedi torri asgwrn fy mhelfis mewn sawl lle. Roedd fy nueg wedi'i rhwygo, roedd ffibrau nerfol yn fy ymennydd wedi'u rhwygo, ac roedd gennyf waedlif ar arwyneb fy ymennydd.

"Roeddwn i'n ymwybodol drwy'r cyfan, gan gynnwys pan oeddwn i ar ochr y ffordd, ond cefais amnesia wedi trawma, ac rwy'n dal i fethu â chofio dim a ddigwyddodd rhwng tua 20 munud cyn y ddamwain a thua tridiau yn ddiweddarach. 

"Cefais alwad fideo gyda fy ngwraig a fy merch ar Ddydd Nadolig, ond er fy mod yn gallu cyfathrebu â nhw, dydw i ddim yn cofio gwneud hynny. Dydw i ddim yn cofio dim byd o gwbl am Nadolig 2020. 

"Roedd traciwr GPS fy ffôn symudol yn dal i redeg felly llwyddais i weithio allan ble a phryd y digwyddodd y ddamwain. Pan gefais fy rhyddhau o'r ysbyty, penderfynais fynd yn ôl ar gefn fy meic er mwyn olrhain fy nghamau. 
“Roeddwn i'n ôl ar gefn fy meic cyn fy mod yn gallu cerdded, oherwydd rwy'n dal i ddioddef niwed i waelod fy asgwrn cefn ac mae'r nerfau yn fy nghoesau wedi'u niweidio, sy'n golygu fy mod yn dal i'w chael hi'n anodd cerdded ar adegau, ond mae beicio'n haws. 

"Gan nad ydw i'n cofio'r ddamwain ei hun, doedd mynd yn ôl ar gefn fy meic ddim yn drawmatig; roedd gen i ddealltwriaeth ddeallusol o'r hyn a ddigwyddodd."

Treuliodd Simon, sy'n beiriannydd meddalwedd a dylunydd cynnyrch ymddeoledig, bum wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys ei ben-blwydd yn 61 oed. 

Dywedodd: "Byddai wedi bod yn Nadolig rhyfedd beth bynnag oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae fy merch yn byw yng Nghanada ac mae fy mab yn byw ym Mryste, ac roedd y cyfyngiadau symud yn wahanol yn Lloegr ar y pryd. Byddai wedi bod yn un tawel, dim ond Freddy fy ngwraig a minnau. 

"Treuliodd Freddy y Nadolig ar ei phen ei hun, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn anodd iddi. Pan ddaeth fy nghof yn ôl tridiau yn ddiweddarach, edrychais ar fy ffôn a gwelais neges ganddi ers Noswyl Nadolig yn dweud 'Ble wyt ti, wyt ti'n iawn?' ac roeddwn i wedi ymateb yn dweud, 'Nac ydw, dw i yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, oes gen ti fy meic?' Roeddwn i wedi siarad â hi'n barod, ond doeddwn i ddim yn cofio gwneud hynny. 

"Galla i ond ddychmygu pa mor drawmatig y byddai wedi bod i fy nheulu. Profais yn bositif am COVID-19 hefyd, ac erbyn y pwynt hwnnw, doedd fy ngwraig ddim yn meddwl y byddai'n fy ngweld eto.

"Cefais anaf i'r ymennydd, ac am gryn amser roeddwn i'n gwadu hynny. Roedd yn anodd ei dderbyn, a hyd yn oed pan oeddwn yn yr ysbyty, gofynnais i fy ngwraig ddod â fy ngliniadur i mewn er mwyn i mi allu gweithio ar wefan cleient, a gwnes yr un peth ar ôl i mi fynd adref.

“Rwy'n berchen ar gwmni marchnata digidol a doeddwn i ddim wedi cymryd diwrnod i ffwrdd ers pan oeddwn i yn yr ysbyty er mwyn gwneud iawn am y ffaith nad oeddwn i'n gallu gweithio diwrnod llawn yn gorfforol. Erbyn y Nadolig canlynol, roeddwn i wedi gorweithio ac wedi blino'n lân. 

"Rwyf wedi ymddeol yn ddiweddar, ac rwy'n bwriadu creu gwefan ar gyfer pobl ag anafiadau i'r ymennydd oherwydd roeddwn i'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth synhwyrol ac ymarferol ar-lein. Bydda i'n gweithio gyda fy nhîm adsefydlu i wneud hyn." 

Dywedodd Simon fod Ambiwlans Awyr Cymru, heb os, wedi achub ei fywyd, ac er mwyn diolch iddi, cymerodd ran yn Her 'Fy 20' yr Elusen drwy feicio 195 o filltiroedd yn ystod y mis a chodi  £485. 

Dywedodd: "Roeddwn i am wneud rhywbeth i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ac er fy mod wedi bwriadu beicio 200 o filltiroedd, rhan o fy therapi yw derbyn mai dim ond rhifau yw rhifau ac na ddylwn i fod yn rhy galed arna i fy hun am y peth."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. 
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.
Dywedodd Simon ei fod yn gobeithio cael Nadolig eithaf tawel eleni cyn i Emily ei ferch, a'i wyrion a'i wyresau, deithio adref i Gymru i ymweld yn y Flwyddyn Newydd.  

Dywedodd: "Ers y ddamwain, rwy'n gwerthfawrogi fy mywyd a'r hyn sydd gen i lawer mwy. Rwy'n hynod ddiolchgar am Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n wasanaeth arbennig iawn, ac oni bai am Ambiwlans Awyr Cymru, fyddwn i ddim yma heddiw."