Mae digwyddiad ar gyfer gyrwyr loris yng Nghanolbarth Cymru wedi codi bron i £11,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr.

Yn ystod y digwyddiad deuddydd daeth mwy na 250 o loris i Farchnad Da Byw y Trallwng (WLS) am y tro cyntaf, gan ddod â channoedd o unigolion sydd â diddordeb mewn loris i'r ardal. 

Cafodd Truck Overload ei drefnu gan yrrwr lori o'r Drenewydd, Paul Williams, a oedd yn gobeithio yn wreiddiol y byddai'r digwyddiad yn denu tua 50 o loris. Fodd bynnag, tyfodd y digwyddiad mor fawr roedd angen iddo ddod o hyd i leoliad newydd a mwy ar gyfer y digwyddiad elusennol. 

Dywedodd Paul: “Roeddwn i eisiau codi arian i'r Ambiwlans Awyr, a rhoddais y digwyddiad ar Facebook gan feddwl y byddwn yn cael 50 o loris i gydfynd â sioe ceir arall yn yr ardal. Roedd y nifer o bobl a oedd eisiau mynychu yn anhygoel, ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Farchnad Da Byw y Trallwng (WLD) am gynnig y safle i ni am y penwythnos.

“Roedd gennym tua 265 o loris gwaith yn y pen draw, ac roedd 90 y cant o'r rheini o Ganolbarth Cymru a'r ardaloedd cyffiniol. Daeth Owens Transpot o Lanelli â rhai o'u loris nhw hefyd.

“Dydw i erioed wedi trefnu unrhyw beth o'r blaen, felly roedd yn dipyn o dasg, ac roeddwn i ychydig yn emosiynol yn cyflwyno siec o £10,967.95 ar safle Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng. Cymerodd amser i mi brosesu'r peth. Doeddwn i erioed wedi disgwyl i'r digwyddiad ddenu cymaint o ddiddordeb, yn enwedig am nad oedd gen i lawer o amser i'w drefnu.”

Roedd hen loris, loris sioe yn ogystal â lori Smokey and the Bandit yn y digwyddiad, a drefnwyd dros ŵyl banc y Sulgwyn. Cafwyd her gwthio lori yn ogystal ag Arddangosfa lle y cafodd y cerbydau a'u gyrwyr eu gwobrwyo ar y diwrnod, yn ogystal â chystadlaethau amrywiol eraill.

Cafodd y gwylwyr adloniant gan fand o Aberhonddu, International Translators a DJ, ac roedd lluniaeth ar gael drwy gydol hyn, yn ogystal â chastell neidio i'r plant.

Cafodd y digwyddiad ei noddi gan West Pendine Trucks, T Alun Jones, G. Owen a'i Feibion a Whiterig.

Daw Paul, sy'n dad-cu i bump o blant, ac wedi bod yn gyrru am 37 o flynyddoedd, o deulu llawn gyrwyr loris ac mae'n gweithio i G. Owen a'i Feibion.

Dywedodd: “Roedd fy nhad a fy mrawd yn yrwyr loris. Dyma yw'r unig beth rwy'n gwybod sut i'w wneud ac mae gen i gymaint o atgofion da ar hyd y blynyddoedd. Mae cymuned loris dda wedi bod erioed. Roeddwn wrth fy modd gyda'r ymateb a gawsom gan y gyrwyr a'r cyhoedd. Mae pobl yn gofyn yn barod a fydd digwyddiad Truck Overload arall y flwyddyn nesaf. Cawn weld, cadwch lygad allan!”

Daeth yr arian a godwyd yn y digwyddiad hwn o archebion loris, yn ogystal â raffl, a gododd tua £1,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i redeg ei gwasanaeth achub bywydau ac mae'n dibynnu ar roddion hael gan ei chefnogwyr ffyddlon. 

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,000 o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru:  “Dylai Paul a'i wraig Andrea fod yn falch iawn o'u hunain am drefnu digwyddiad elusennol mor llwyddiannus mewn cyfnod mor fyr o amser.

“Mae codi bron i £11,000 yn anhygoel, a bydd eich rhodd anhygoel yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf, boed hynny yn yr awyr neu ar y ffordd. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn.”