Stori Penny

 

Mae gyrrwr ifanc a oedd bron â cholli ei bywyd ar ôl cael damwain difrifol wedi ymweld ag Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn dweud diolch.

 

Roedd Penny Wheaton, o Dreforys yn Abertawe, mewn cyflwr difrifol yn dilyn damwain traffig ffordd ddifrifol yng nghyffiniau'r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru yn 2016. 

 

Mae Penny yn cofio'r profiad yn ei geiriau ei hun: "Ar 28 Chwefror 2016, dim ond pum niwrnod ar ôl pasio fy mhrawf gyrru, prynais fy nghar cyntaf. Roeddwn yn edrych ymlaen yn arw at fynd allan a manteisio i'r eithaf ar fy annibyniaeth newydd.

 

"Ychydig dros wythnos yn ddiweddarach, ar 7 Mawrth, y bwriad oedd mynd i'r gwaith yn y Drenewydd, lle roeddwn yn gweithio fel gofalwr sy'n byw gyda phobl ag anafiadau trawmatig i'r ymennydd a'r asgwrn cefn. Roeddwn yn awyddus i yrru i'r gwaith ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf, heb orfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

"Rwy'n cofio'r diwrnod yn dda. Roedd y tywydd yn ofnadwy ac roedd fy mam wedi erfyn arnaf i fy ngyrru i'r orsaf y tro hwn. Roeddwn i'n benderfynol o fanteisio i'r eithaf ar fy nghar newydd, felly yn groes i gyngor fy mam, cychwynnais ar y daith tua'r gogledd.

 

"Am tua 11.30am, collais reolaeth dros fy nghar wrth yrru o amgylch tro chwith yn y ffordd, gan lithro draw i ochr arall y ffordd. Llwyddais i lywio'r car yn ôl i ochr iawn y ffordd ond doedd gen i ddim digon o amser i osgoi lori a oedd yn dod tuag ataf, ac a darodd fy nghar ar 50mya. O ganlyniad i rym y gwrthdrawiad, cafodd fy nghar ei daflu o un ochr o'r ffordd i'r llall fel pinbel nes i mi stopio wrth ochr arglawdd o'r diwedd. O'r eiliad hynny ymlaen, aeth popeth yn ddu."

 

Roedd Penny yn anymwybodol yng ngweddillion tolciog ei Nissan Micra, heb ddim syniad am hyd a lled ei hanafiadau a'r perygl uniongyrchol roedd yn ei wynebu.

 

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys yn gyflym a daeth yn amlwg yn fuan y byddai angen sylw meddygol arbenigol ar Penny. Cafodd awyren Ambiwlans Awyr Cymru a leolir yn y Trallwng ei alw i'r lleoliad, a chyrhaeddodd o fewn munudau. 

 

Y Meddygon Hedfan ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw oedd Paddy Morgan, sy'n feddyg gofal critigol, a Sam Williams, sy'n ymarferydd gofal critigol.

 

Dywedodd Meddyg Hedfan Cymru Dr David Rawlinson: "Llwyddodd Paddy a Sam i roi anesthetig brys i Penny er mwyn amddiffyn ei hymennydd rhag mwy o niwed, a rhoi trallwysiad cynnyrch gwaed er mwyn trin gwaedu mewnol.Nid yw'r triniaethau hyn ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty fel arfer. Drwy fynd â'r adran achosion brys i'r claf, roedd y tîm yn gallu dechrau rhoi triniaeth i Penny er mwyn achub ei bywyd yn y fan a'r lle."

 

Ar ôl cael ei thorri allan o'i cherbyd a chael ymyriadau meddygol i achub ei bywyd ar ochr y ffordd, cafodd Penny ei chludo i'r hofrennydd a oedd yn aros amdani. 

 

Cafodd y claf ugain oed ei chludo yn y hofrennydd o Ganolbarth Cymru wledig i Ganolfan Trawma Mawr Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke. Byddai'r daith wedi cymryd dwy awr ar y ffordd, ond mewn awyren cymerodd lai na 30 munud.

 

Ychwanegodd Dr Rawlinson:  "O ganlyniad i'n proses gwneud penderfyniadau dan arweiniad meddygon ymgynghorol, daethom â hi yn syth i gael gofal arbenigol yn Stoke, gan osgoi'r ysbytai lleol. Yn y gorffennol, heb Ambiwlans Awyr Cymru, byddai wedi cael ei chludo i'r ysbyty lleol, sef siwrnai o awr, ac yna ei throsglwyddo i Stoke ar y ffordd. Byddai hyn wedi arwain at oedi pellach cyn i Penny gael y driniaeth arbenigol hanfodol roedd ei hangen arni."

 

Ar ôl cyrraedd, cafodd Penny ei chludo i'r theatr llawdriniaeth bron yn syth lle daeth hyd a lled ei hanafiadau'n amlwg.

 

Dywedodd: "O'r ychydig bach rwy'n ei gofio ar ôl y trawiad, rwy'n cofio'r llawfeddyg yn dweud wrtha i pa mor wael oedd fy anafiadau. Roeddwn i wedi torri fy nghefn mewn tri lle, fy ngên, fy ysgwydd chwith ac wedi cracio pump o'm hasennau. Ar ben hynny, roedd gen i ysgyfaint wedi ymgwympo, dueg wedi'i rhwygo, a choluddion wedi'u cleisio'n ddifrifol yn ogystal â thoriad i gefn fy mhenglog a chlais ar fy labed flaen sy'n golygu bod gen i niwed i'r ymennydd."

 

Cafodd Penny lawdriniaeth fawr er mwyn achub ei bywyd a gwella'r tebygrwydd y byddai'n gwella'n llwyr.

 

“Treuliais 11 o ddiwrnodau yn yr ysbyty cyn cael fy rhyddhau, ond roedd ffordd hir o'm blaen i wella.  Am dri mis wedyn, bu fy mam yn gofalu amdanaf gartref a chefais ffisiotherapi dwys i wella fy ngallu i symud."

 

Dair blynedd a hanner ar ôl ei phrofiad ofnadwy, mae Penny yn parhau i wella ac yn dweud mai diolch i Ambiwlans Awyr Cymru y mae hi yma o hyd.

 

"Rwy'n gallu gwneud popeth y mae unrhyw un 25 oed yn gallu ei wneud, diolch i'r gwasanaethau brys gwych a achubodd fy mywyd. Rwy'n cerdded, yn rhedeg a hyd yn oed yn gyrru unwaith eto. Mae effeithiau'r ddamwain arnaf o hyd ac mae'n anodd i mi feddwl am beth allai fod wedi digwydd. Ni allaf ddiolch digon i aelodau criw Ambiwlans Awyr Cymru am yr hyn a wnaethant i mi.  Mae gallu cael y lefel uwch honno o ofal ar ochr y ffordd yn wirioneddol anhygoel. Heb eu sgiliau, eu harbenigedd a'u hymateb cyflym, rwy'n gwybod na fyddwn i yma heddiw.

 

"Byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb a achubodd fy mywyd y diwrnod hwnnw, ac mae'n debyg mai gwers y stori yw ... Mam a ŵyr orau."