Codwyd bron i £20,000 ar gyfer dwy elusen bwysig yn ystod gêm goffa pêl-droed lwyddiannus er cof am fachgen ifanc a thad i ddau.

Mynychodd dros 100 o bobl y diwrnod hwyl elusennol, a gafodd ei gynnal ar gae chwarae y Recreation Ground yng Nghaersws, er cof am Casey Breese a Thomas 'Winnie' Evans. Roedd yr holl arian a godwyd yn ystod y digwyddiad er budd Ambiwlans Awyr Cymru a'r NSPCC.

Oedolion oedd yn cymryd rhan yng Nghwpan Thomas ‘Winnie’ Evans, a oedd yn cynnwys cyn cyd-chwaraewyr Thomas a'i ffrindiau.

Fe wnaeth y plant fwynhau Gŵyl Bêl-droed Casey Breese, barbeciw, peintio wynebau, cestyll bownsio, a llawer mwy.

Roedd potel o siampên wedi'i lofnodi gan y Prif Weinidog Boris Johnson a chrys wedi'i lofnodi gan y chwaraewr tennis, Andy Murray, wedi'u cynnwys yn yr ocsiwn llwyddiannus.

Cyhoeddodd y trefnwyr eu bod yn bwriadu cynnal Cwpan Thomas ‘Winnie’ Evans a Gŵyl Casey Breese yn flynyddol a theyrnged, sydd eto i'w chyhoeddi, i Owen Bennett, person ifanc o Gaersws a fu farw mewn damwain car ym mis Mai.

Bu farw Casey dros 10 mlynedd yn ôl pan ddisgynnodd postyn gôl arno wrth iddo chwarae gyda'i ffrindiau. Bu farw “Winnie”, yn 34 oed, mewn damwain car rhwng Caersws a Threfeglwys ym mis Medi 2021.

Dywedodd Karl Wigley trefnydd y digwyddiad: "Gan fod y gymuned wedi codi'r arian yn ystod yr amser anodd yma rydym ni wedi penderfynu rhoi peth o'r arian yn ôl drwy wahanol brosiectau lleol yn ogystal â rhoi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a'r NSPCC. Hoffwn ddiolch i'r noddwyr, i'r gwirfoddolwyr, ac i'r rhai a gyfrannodd at yr arwerthiant. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eu help nhw.

"Rydym yn bwriadu gwneud hyn bob blwyddyn er mwyn cadw'r atgofion am Winnie, Casey ac yn fwy diweddar, Owen Bennett, yn fyw."

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd yr ŵyl goffa pêl-droed yn llwyddiant ysgubol gan godi swm anhygoel i ddwy elusen bwysig yn ogystal â phrosiectau lleol. Diolch i'r trefnwyr, i bawb a gymerodd ran ac a roddodd arian i'r digwyddiad. Roedd yn deyrnged hyfryd i Casey Breese a Thomas “Winnie” Evans ac mae'n hyfryd clywed y bydd Cwpan Thomas 'Winnie' Evans a Gŵyl Casey Breese yn cael eu cynnal bob blwyddyn.

“Mae rhoddion fel hyn yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf, drwy ddefnyddio ein hofrennydd a'n cerbydau ymateb cyflym.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.