Mae Gŵyl CowBoi Lwyddiannus, a gafodd ei chynnal yn Nhafarn y Roosters, Penrhyncoch, wedi codi £1,500 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Trefnodd Mearina James y digwyddiad ar ôl i feddygon yr elusen gael eu galw ar gyfer ei gŵr Alun yn 2001 a'i thad yng nghyfraith, Gareth James, yn 2017, pan gawsant ddamweiniau ffermio. Yn anffodus, bu farw Gareth yn hwyrach yn yr ysbyty.

Cafodd ei mab Aled Owen ei hedfan i'r ysbyty hefyd 15 mlynedd yn ôl pan gafodd broblemau gyda'i ysgyfaint o ganlyniad i niwmonia a sepsis.

Cafodd Mearina, sy'n berchen ar fenter magu lloi, gymorth a help gan y tîm yn Nhafarn y Roosters a phobl leol eraill wrth drefnu'r digwyddiad.

Gwnaeth yr Ŵyl Cowboi gynnwys cerddoriaeth fyw gan ddau fand – The Twurzels a Smoking Guns, yn ogystal ag arwerthiant a barbeciw. Rhoddwyd gwobrau ar y noson i'r dyn a'r ddynes â'r wisg orau.

Dyma'r Ŵyl Cowboi gyntaf ym Mhenryncoch ac er gwaethaf yr ansicrwydd o ran a fyddai'n gallu digwydd gyda'r cyfyngiadau COVID, bu'n llwyddiant ysgubol.

Dywedodd Mearina, yn llawn balchder: “Roedd yn wych codi swm da o arian i Ambiwlans Awyr Cymru, diolch i haelioni pawb a gefnogodd y digwyddiad, o roi gwobrau i'r arwerthiant, rafflau a'r nifer gwych o bobl a ddaeth. Roedd dau fand byw yn yr Ŵyl Cowboi, sef The Twurzels a Smokin Guns, ac roedd barbeciw, dawnsio a phawb yn mwynhau eu hunain!”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Nid yw codi arian i'r elusen sy'n achub bywydau, sy'n agos at galon ei theulu, yn rhywbeth newydd i Mearina; yn flaenorol mae wedi codi £500 drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd.

Ychwanegodd: “Y rheswm pam roeddwn am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru oedd bod yr elusen wedi achub cynifer o fywydau, gan gynnwys fy ngŵr a gafodd ei wasgu gan beiriant ar y fferm. Cafodd fy nhad yng nghyfraith ei achub gan Ambiwlans Awyr Cymru hefyd, ond yn anffodus bu farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty. Cafodd fy mab ei hedfan i'r ysbyty hefyd pan gafodd broblemau gyda'i ysgyfaint. Fel teulu, rydym yn rhoi i'r elusen yn rheolaidd ac rydym mor ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dywedodd Dougie Bancroft, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Roedd yr Ŵyl Cowboi gyntaf yn ddigwyddiad arbennig i bobl o bob oed. Mae'r teulu yn gwybod yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r elusen i bobl Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae wir yn hyfryd clywed eu bod wedi parhau i godi arian i'r elusen. Diolch i bawb a gefnogodd Mearina ac Alun wrth drefnu’r digwyddiad arbennig hwn. Mae eich cefnogaeth yn golygu y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i fod yno i bobl ledled y wlad pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch yn fawr iawn.” 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.