Mae'r partneriaethau unigryw y mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi’u datblygu i greu gwasanaeth meddygol o'r radd flaenaf wedi cael cydnabyddiaeth gan arweinwyr syniadau'r DU ar gyfer cydweithredu.

Cyflwynwyd Gwobr Effaith Gymdeithasol i'r Elusen a'i phartner cydweithredol, GIG Cymru, gan y Sefydliad Cydweithredu (ICW) yn ystod digwyddiad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar. Roedd y wobr yn cydnabod sut y mae'r gwasanaeth wedi datblygu o ganlyniad i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth, a'r ffordd y mae'n gwthio'r ffiniau i'r rhai hynny mewn angen.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru bellach yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn Ewrop. Arweiniodd y bartneriaeth Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus unigryw hon, a grëwyd yn 2015 at ffurfio'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru), neu 'Meddygon Hedfan Cymru' fel y'i gelwir gan amlaf.

Mae'r gwasanaeth, sy'n mynd â'r ystafell frys at y claf, yn cynnwys meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol sy'n gallu rhoi triniaethau brys nad ydynt ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty fel arfer. Mae'r meddygon yn gallu trallwyso gwaed, rhoi anaestheteg, cynnig poenladdwyr cryf, a chynnal amrywiaeth o driniaethau meddygol – a hyn oll ar safle digwyddiad. Yn ogystal, caiff cleifion eu cludo mewn hofrennydd i'r ysbyty mwyaf addas ar gyfer eu salwch neu eu hanafiadau, gan arbed amser gwerthfawr.

Fel rhan o broses Gwobrau'r Sefydliad Cydweithredu, rhoddodd cynrychiolwyr o'r Elusen a GIG Cymru gyflwyniad ar y bartneriaeth a sut y mae wedi bod mor llwyddiannus. Gwnaethant siarad am bwysigrwydd agweddau ar gydweithredu sydd eu hangen ar gyfer gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth, a chreu gwerth i bobl Cymru.

Dywedodd yr Athro David Lockey, sef Cyfarwyddwr Cenedlaethol 'Meddygon Hedfan Cymru': "Dechreuodd y broses o ddatblygu gwasanaeth 'Meddygon Hedfan Cymru' yn 2012, wedi'i lywio gan Dr Dindi Gill a Dr Rhys Thomas. Dylanwadwyd arni gan nifer o ffactorau cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n sbarduno newid, yn ogystal ag awydd yr Elusen i gyflwyno'r gwasanaeth gorau i Gymru. Yn dilyn gwaith ymgysylltu manwl ag Ymddiriedolwyr yr Elusen a'r tîm uwch-reolwyr, a GIG Cymru, dechreuodd y gwasanaeth newydd dan arweiniad meddygon ymgynghorol weithredu ym mis Ebrill 2015."

O ganlyniad i'r bartneriaeth, mae gwerthusiad craffu annibynnol gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod y gwasanaeth:

  • wedi lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i gleifion sy'n ddifrifol wael gael triniaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol.
  • yn golygu bod mwy o bobl Cymru yn cael mynediad cyfartal i driniaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn argyfwng.
  • wedi tynnu pwysau oddi ar wasanaethau brys rheng flaen y GIG.
  • wedi helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth cyflogeion GIG Cymru o ran gofal critigol a gofal brys.
  • wedi helpu i recriwtio meddygon ymgynghorol i Gymru.

 Dywedodd Angela Hughes, Prif Weithredwr yr Elusen: "Mae'n bartneriaeth gymhleth, sydd hefyd yn cynnwys ein partneriaid hedfan Babcock Mission Critical Services Onshore. Fodd bynnag, rhoddodd ein nod cyffredinol, o helpu'r rhai hynny mewn angen, yr ewyllys a'r penderfyniad i ni gynllunio a chreu gwasanaeth sydd bellach yn darparu'r gofal gorau posibl i Gymru. Mae hyn wedi bod yn bosibl, diolch i sgiliau ac ymroddiad cyflogeion yr Elusen, GIG Cymru a Babcock. O ganlyniad i lwyddiant yr hyn rydym yn ei gyflawni, rydym wedi cael ymweliadau a cheisiadau am gymorth gan wasanaethau ambiwlans awyr o bob cwr o'r byd.

"Un o'n partneriaid pwysicaf yw pobl Cymru. Hebddynt, ni fyddem yn gallu rhedeg y gwasanaeth hofrenyddion. Mae hon wir yn wobr i Gymru."

Gydag aelodau sy'n cynnwys rhai o gwmnïau amlasiantaethol mwyaf y byd, nod y Sefydliad Cydweithredu yw sefydlu cydweithredu fel disgyblaeth busnes broffesiynol. Maent yn helpu sefydliadau bach a mawr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, i feithrin a datblygu cydberthnasau busnes cystadleuol sy'n seiliedig ar ymarfer da o ran gwaith cydweithredol.

Dywedodd Leigh Lawry, Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Cydweithredu yng Nghymru: "Roedd penderfyniad panel barnu'r Sefydliad Cydweithredu yn gryf o blaid cydnabod y dull unigryw a ddatblygwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru fel ffordd o ddangos sut y mae'r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a'r diwydiant yn gallu cydweithio er gwell.  Roedd y Sefydliad Cydweithredu a'r Sefydliad Cydweithredu yng Nghymru wrth eu bodd fod cynrychiolwyr o Ambiwlans Awyr Cymru yn gallu ymuno â ni ar gyfer y seremoni Wobrwyo lle roeddem yn gallu rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i'r gwaith gwych y mae'r Elusen yn ei wneud, a'r meincnod y mae Cymru wedi'i sefydlu wrth gydweithredu.