Ydych chi'n barod i fentro a phlymio i'r dŵr 21 o weithiau i gefnogi elusen sy'n achub bywydau?

Er mwyn dathlu 21 mlynedd ers sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru mae'r Elusen wedi lansio ei her Sblash 21, ond a oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i ymgymryd â'r her yn ystod mis Medi?

Er mwyn cymryd rhan gallwch naill ai nofio, cael cawod oer, syrffio, neu eistedd mewn twba twym, gan helpu'r gwasanaeth 24/7 i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

Fydd ddim rhaid i chi dalu i gymryd rhan ond caiff pawb eu hannog i godi arian yn ystod Sblash 21. Os byddwch yn codi £100 byddwch yn derbyn cap nofio arbennig Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel yr ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn dathlu 21 mlynedd ers sefydlu'r elusen ar hyn o bryd a gobeithiwn y bydd aelodau'r cyhoedd yn cymryd rhan yn Sblash 21 i nodi'r achlysur.

“Rydym yn falch o gael lansio ein her ddŵr gyntaf. Mae heriau nofio wedi dod yn hynod boblogaidd i elusennau, ac rydym yn edrych ymlaen at ddenu cefnogwyr newydd a chefnogwyr presennol. Mae gweithgareddau nofio a dŵr oer yn dda i'ch iechyd meddwl a'ch lles corfforol hefyd. Mae hwn yn weithgaredd codi arian perffaith i bawb a gall gael ei gwblhau unrhyw le.

“O fewn 21 mlynedd, mae'r Elusen wedi datblygu o fod yn wasanaeth 12 awr i wasanaeth 24/7, sy'n anhygoel. Mae gweithwyr meddygol yn cynnig triniaeth gofal critigol uwch i'r cleifion ar ochr y ffordd. Ni fyddai hyn oll yn bosibl oni bai am gefnogaeth barhaus gan bobl Cymru. Eu Helusen nhw yw hi, a'r gobaith yw y byddant yn ein cefnogi gyda Sblash 21. Mae'r digwyddiad codi arian yn agored i bobl o bob oedran, a gallant ddewis her sy'n ymwneud â dŵr sy'n addas i'w hanghenion.

“Mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion argyfwng yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Mae digwyddiadau codi arian, fel hyn, yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”

Am ragor o wybodaeth am Sblash 21 ewch i www.walesairambulance.com/splash-21 neu www.ambiwlansawyrcymru.com/sblash-21