Adferwyd bron i £3,000 o bunnoedd o un o byllau Dan-yr-Ogof, diolch i ddyfeisgarwch dau wirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru a haelioni'r Ogofâu Arddangos a South Wales Metal Finishing. 

Y tu fewn i un o ogofâu Dan-yr-Ogof yng Nghwm Tawe mae Pwll Cwrwgl, sydd ag arwydd yn gofyn i'r cyhoedd 'daflu ceiniog' ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Yn gynharach eleni, cafodd y pwll ei wagio a rhoddwyd yr arian yn garedig i'r elusen Cymru gyfan. 

Yn anffodus, roedd yr arian a adferwyd mewn cyflwr gwael ac roedd angen ei lanhau'n sylweddol cyn iddo allu cael ei gludo i'r banc a'i ddefnyddio i gefnogi gwaith achub bywydau'r Elusen.  

Roedd gwirfoddolwyr ymroddedig Ambiwlans Awyr Cymru, Graham Hirst a Barbara Wiliams, sydd wedi cefnogi’r Elusen ers dros ddeng mlynedd, yn benderfynol o adfer y rhoddion, a oedd yn gyfanswm o £2,895.  

Daeth Graham o hyd i gwmni yn Nhreorci, ‘South Wales Metal Finishing’, a oedd yn gallu prosesu metel. Dywedodd: “Roeddwn yn eistedd yn y tŷ un noson a chefais y syniad gysylltu â phlatwyr metel, ar ôl methu cael llawer o lwyddiant gydag opsiynau eraill. Clywais am South Wales Metal Finishing ac roeddent yn hynod o barod i helpu.” 

Nid oedd y cwmni wedi glanhau arian erioed o'r blaen ond gwnaethant gytuno i gymryd sampl i weld a oedd yn bosibl ei adfer. 

Dywedodd Luc Demaid, Cyfarwyddwr Cynhyrchu South Wales Metal Finishing: "Pan glywsom gan Graham, gwnaethom ni feddwl 'beth am i ni roi cynnig arno a gweld beth y gallwn ni ei wneud'. Rydym wedi glanhau botymau metel wedi'u gweithgynhyrchu yn y gorffennol felly roeddem ni'n meddwl efallai y byddai'n debyg." 

Yn ffodus, cafodd y sampl ei glanhau'n llwyddiannus a chynigiodd y busnes teuluol lanhau'r swm cyfan, am ddim. 

Bu'n rhaid gwneud sawl taith i Dreorci oherwydd pwysau'r ceiniogau. 

Dywedodd Barbara: “Cymerodd wyth taith i'r cwmni am fod y bwcedi mor drwm ond rwy'n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i'w adfer ac nad yw'r arian wedi mynd i wastraff."

Dywedodd Luc Demaid: "Cynhaliom y broses lanhau drwy osod y ceiniogau yn ein cyfarpar casgenni prosesu a'u cylchdroi mewn hydoddiant glanhau diwydiannol cyn eu rinsio sawl gwaith mewn dŵr glân. Yna cawsant eu sychu'n allgyrchol yn barod i'w casglu. 

"Mae llawer ohonom wedi gweld Ambiwlans Awyr Cymru mewn argyfyngau meddygol yn lleol ac yn cydnabod bod yr Elusen yn hanfodol i achub bywydau. Rydym yn gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wneud ac yn fwy na pharod i helpu yn y ffordd fechan hon." 

Mae'r rhodd garedig gan Dan-yr-Ogof yn rhan o bartneriaeth barhaus rhwng Canolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol Cymru a'r Elusen. Llynedd, cyhoeddodd fod Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael ei dewis fel ei Elusen Ddewisol am bum mlynedd. Cafodd y bartneriaeth ei chreu â chymorth Veronica Evans, un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru. 

Ers hynny, mae'r atyniad poblogaidd i dwristiaid wedi codi arian drwy'r Trên Elusennol, sy'n cludo ymwelwyr rhwng y Ganolfan Ogofâu Arddangos Genedlaethol a'r Ganolfan Ceffylau Gwedd a'r Fferm. Mae gan Dan-yr-Ogof hefyd flychau casglu ym mhob rhan o'r Ganolfan.  

Dywedodd Ashford Price, Cadeirydd Dan-yr-Ogof: "Rydym wedi gweld gwaith Ambiwlans Awyr Cymru ein hunain pan aeth un o aelodau ein staff i goma diabetig ac mae'n fwy na thebyg bod y gwasanaeth wedi achub ei fywyd. Rydym yn hynod o falch ein bod wedi gallu rhoi swm cystal o arian o lyn bach tanddaearol sydd 500 o droedfeddi islaw'r wyneb. Mae hyn yn ychwanegol at y trên tir sy'n ymroddedig ar gyfer Ambiwlans Awyr, lle chwaraeir sylwebaeth i'r ymwelwyr am y gwaith arbennig mae Ambiwlans Awyr yn ei wneud ac yna gofyn am rodd.  

"Hefyd mae rhagor o syniadau codi arian i ddod, ac un ohonynt o bosib yn cynnwys ein deinosoriaid." 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae hon yn stori anhygoel ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd ein gwirfoddolwyr a haelioni anhygoel y sefydliadau cysylltiedig. Mae'r cydweithrediad rhwng Dan-yr-Ogof, Graham a Barbara a South Wales Metal Finishing wedi cyfrannu swm sylweddol i' gwasanaeth sy'n achub bywydau.  

"Roedd rhodd Dan-yr-Ogof i roi'r arian yn wych ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth parhaus fel Elusen Ddewisol. Yn yr un modd, mae South Wales Metal Finishing yn enghraifft wych o'r ffordd y gall busnesau gefnogi ein Helusen drwy ddarparu gwasanaethau a fyddai fel arall yn costio arian i ni, neu yn yr achos hwn, yn peri i ni golli arian.  

"Mae ein gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig yn ein cydberthynas â Dan-yr-Ogof, ac yn enwedig Veronica, am ysgogi'r bartneriaeth yn y dechrau. Doedd Graham a Barbara ddim yn gallu gwneud digon i sicrhau nad oedd y swm sylweddol o arian a gasglwyd yn mynd yn wastraff ac y byddai pobl Cymru yn cael budd ohono drwy ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. 

"Diolch o galon i bawb a fu'n gysylltiedig â hyn. "