Mae grŵp o gwiltwyr a gweithwyr clytwaith ymroddedig wedi defnyddio eu talent i greu cwilt a fydd yn cael ei roi ar ocsiwn i elusen sy'n achub bywydau.

Roedd Wye Knots, sy'n cynnwys 20 o ferched ac un dyn, yn awyddus i greu cwilt er mwyn helpu i godi arian at achos teilwng – Ambiwlans Awyr Cymru.

Nid yw codi arian yn rhywbeth newydd iddynt, mae Wye Knots wrth eu bodd yn creu cwiltiau elusennol ac maent eisoes wedi'u creu ar gyfer Tîm Achub Mynydd Cymru, Cŵn Tywys Cymru, Ysbyty QE2 yn Birmingham, 'House Start' ac maent wedi gorffen creu un ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yng Nghymru yn ddiweddar.

Mae Wye Knots wedi bod yn cyfarfod ers tua 28 mlynedd, ac mae wedi cymryd 12 mis i gynllunio a chreu'r cwilt poblogaidd, a gwnaethant hefyd gymryd rhan yn Sioe Gwiltiau Malvern.

Dywedodd Cadeirydd Wye Knots, Gill Lewis: “Yn ystod y cyfnod clo, gwnaethom godi calonnau ein gilydd drwy wneud heriau bach. Un o'r heriau oedd gwneud pedwar neu fwy o sgwariau 4" oren a glas gyda'r nod o greu cwilt elusennol. Ar ôl i ni eu casglu i gyd, gwnaeth dwy wraig gyfosod y sgwariau a chreu cwilt. Yna, aeth aelod arall ati i'w gwiltio. Roeddem yn meddwl bod y sêr yn ddewis da i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Mae’r cwilt cotwm hardd tua 48 x 52 modfedd a bydd yn cael ei roi ar ocsiwn yn siop eBay Ambiwlans Awyr Cymru.

Er mwyn prynu eitemau o'r siop eBay, ewch i www.ebay.co.uk/str/walesairambulance

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb o Wye Knots a roddodd o'u hamser i greu cwilt gwych ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n hyfryd clywed bod y cwiltwyr a'r gweithwyr clytwaith yn codi calonnau ei gilydd yn ystod y cyfnod clo drwy gymryd yr amser i weithio ar y cwilt.

“Rydym wrth ein bodd y bydd y cwilt yn cael ei roi ar ocsiwn ar ein siop eBay, ac yn falch y bydd yr arian a godir yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.