Cyhoeddwyd: 04 Mawrth 2024

Bydd dau dechnegydd meddygol brys o Dde Cymru yn cyfnewid eu cerbydau brys am feiciau er mwyn cwblhau taith feicio 24 awr o un pen o Gymru i'r llall.

Bydd Joe Witts a Mikey Davey yn beicio o Gastell Caernarfon yn y  gogledd i Gastell Caerdydd yn y de i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd y dynion yn beicio ar lwybr drwy ganol Gymru, sydd 'oddeutu 200 milltir o hyd, a 3330m i'w ddringo' - sy'n cyfateb i fynd i fyny'r Wyddfa 3.1 gwaith!

Dywedodd Joe: "Rydym yn anelu at ei gwblhau mewn rhyw 18 awr. Mae hon yn daith feicio a fydd yn ddi-baid, a bydd angen i ni gefnogi ein hunain. Golyga hyn y bydd rhaid i ni gludo cyflenwadau a chyfarpar gyda ni er mwyn ymdrin ag unrhyw broblemau, os byddant yn codi yn ystod y siwrne."

Mae cydweithwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisoes wedi cyrraedd eu targed o £500 drwy godi £600 ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn digwydd ar 8 Mehefin.

Wrth feddwl am y rheswm pam roeddent am ymgymryd â'r her, dywedodd Tudor: "Gwnaethom ddewis yr elusen am ein bod yn gweld ein hunain y gwaith y maent yn ei wneud. Mae Mikey a finnau wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yr ambiwlans awyr i ddarparu gofal cyn mynd i'r ysbyty ardderchog i bobl Cymru.

"Rydym yn meddwl fod y gwasanaeth a ddarperir ganddynt yma yng Nghymru yn hynod werthfawr o ystyried y dirwedd. Ceir pellteroedd helaeth rhwng rhai cymunedau a sefydliadau gofal terfynol, ac felly gall yr ambiwlans awyr ddod â'r adran achosion brys ysbyty i unrhyw le yng Nghymru sy'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion."

"Oherwydd yr hinsawdd ariannol gyfredol, mae'n anodd gofyn i bobl gyfrannu eu henillion haeddiannol, ond rydym yn credu fod yr achos hwn yn un hanfodol ac efallai un diwrnod y bydd angen iddynt alw ar yr ambiwlans awyr am help."

Arferai Joe, sy'n byw yng Nghwm Afan, a Mikey o Abertawe, fod yn y fyddin ac roeddent yn mwynhau bod mewn helbul a chael eu herio.

Nid ydynt yn edrych ymlaen at ddringo'r A470 o Aberhonddu i waelod Pen Y Fan gan y bydd hyn 125 o filltiroedd i mewn i'r her.

Dywedodd Owen Adams, Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fel Joe, rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r gwahaniaeth mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud i'n cleifion.

"Rwy'n gobeithio y bydd y daith mor ddidrafferth â phosibl iddynt ac na fydd y tywydd yn rhy wael. Mae'n wych gweld eu bod eisoes wedi cyrraedd eu targed gwreiddiol o £500 gyda help gan eu cydweithwyr. Da iawn i'r ddau ohonynt, ac rwy'n gobeithio na fyddant mewn gormod o boen pan fyddant yn cyrraedd Caerdydd yn y pen draw."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd ein criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Hannah Bartlett, o Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r bartneriaeth anhygoel rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ag Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu'r gofal gorau posibl i ni gyd.

"Rydym wrth ein bodd bod Mikey a Joe wedi penderfynu codi arian ar ein cyfer. Mae'r ddau wedi gweithio'n agos gyda'n meddygon ac felly wedi gweld eu hunain pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth i bobl Cymru. Maent eisoes wedi cyrraedd eu targed codi arian, sy'n rhyfeddol. Rydym yn dymuno pob hwyl iddynt drwy gydol eu hymgyrch.

“Mae Mikey a Joe yn helpu i achub bywydau yn ddyddiol, a thrwy gwblhau'r daith hon, byddant yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch i'r ddau ohonoch.”

Dywedodd Linda Bladen, Rheolwr Ardal Castell-nedd Port Talbot yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae bob amser yn braf gweld gweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn codi arian i achosion da. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi dangos y math o wahaniaeth hanfodol y gallant ei wneud mewn argyfwng meddygol, a hynny sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd.

"Pob lwc i Mikey a Joe, a da iawn i chi'ch dau am wynebu'r her anhygoel hon."

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Mikey a Joe drwy gyfrannu at eu tudalen JustGiving 'Ride Wales In 24hrs for The Wales Air Ambulance Charitable Trust’.