Mae teulu Ethan Ross, a fu farw ym mis Medi 2020 yn 17 oed, wedi rhoi £50,000 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am y llanc ‘poblogaidd dros ben, ac uchel ei barch’.    

Cafodd Ethan anaf difrifol iawn i'w ymennydd ar ôl cael ei daro gan gar ar yr A455 tra roedd yn teithio adref o'r gwaith ar ei foped. Hedfanodd Ambiwlans Awyr Cymru Ethan i'r Ganolfan Trawma Mawr yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke ond bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Galwodd rhieni Ethan, sef Helen a Paul o Lanelwy, ar y cyhoedd i gymryd rhan yn ymgyrch codi arian ‘Move a Marathon for Ethan’ er cof am eu mab anhunanol, caredig a dawnus. 

Digwyddiad penwythnos oedd Move a Marathon for Ethan, er budd elusennau Ambiwlans Awyr Cymru ac Young Minds, a chododd dros £100,000.

Roedd yr ymgyrch codi arian yn annog pobl o bob oedran i helpu i godi arian drwy symud 26.2 milltir. Gellid cwblhau'r milltiroedd drwy gerdded, nofio, rhedeg neu heicio. Neu, gwnaeth pobl hefyd feddwl am ffordd greadigol o gymryd rhan.   

Roedd tad Ethan, Paul, a'i frawd, Callum, wedi herio eu hunain i gwblhau'r marathon, a ddigwyddodd ddydd Sul 20 Mehefin.   

Roedd Ethan yn ddyn ifanc poblogaidd iawn ac uchel ei barch a oedd yn gweithio'n rhan amser fel gweinydd yng Ngwesty Castell Bodelwyddan ac roedd hefyd yn aelod o Garfan Ddatblygu Clwb Pêl-droed Dinbych. Roedd yn ‘anhunanol, yn garedig, yn ofalgar, yn benderfynol, yn dawel, yn dalentog ac yn hynod o gystadleuol’.    

Dywedodd Helen Ross, mam Ethan: “Roedd Ethan yn astudio Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Dinbych ac roedd yn gobeithio mynd i Brifysgol Bryste i astudio Peirianneg Awyrofod. Roedd ganddo uchelgeisiau a dyheadau mawr. Roedd yn awyddus i deithio'r byd. Roedd Ethan mor drefnus ac roedd yn gwybod beth roedd am wneud â'i fywyd. Roedd yn hoff iawn o ganu, a byddai'n canu'r gân ‘Never Enough’ o'r sioe The Greatest Showman nerth ei ben.    

“Roedd Ethan yn dwli ar wyddoniaeth a'r gofod ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn sêr a'r bydysawd. Bydd y byd yn lle tlotach hebddo.”

Roedd Ethan wedi ysgrifennu'r canlynol ar gyfer ei ddatganiad personol i'r brifysgol, sy'n ddisgrifiad perffaith o Ethan, yn ôl ei deulu - ‘Fel dyn ifanc sydd â diddordeb mawr yn y byd o'm cwmpas, rwyf bob amser wedi cael fy nenu i edrych i fyny i'r awyr. Rwyf am sicrhau bod diben i'm bywyd a bod o fudd i ddynolryw mewn rhyw ffordd’.

Gan sôn am eiriau Ethan, dywedodd Helen: “Yn sicr, mae wedi gwneud hyn drwy roi ei organau i achub bywyd cynifer o bobl. Rhaid i ni barhau â'i waddol.” 

Roedd rhieni Ethan yn falch o fod wedi codi cymaint o arian i elusen er cof am Ethan. Dywedodd Helen a Paul Ross: “Rydym yn falch iawn o bawb sydd wedi ein cefnogi a'n helpu i godi swm mor fawr o arian. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd Move a Marathon for Ethan 2021 er cof am ein mab Ethan ac er budd ein dewis o elusennau.  

“Roedd yn fraint cael cyflwyno siec o £50,000 i Ambiwlans Awyr Cymru gan bawb a gymerodd ran yn Move a Marathon for Ethan 2021 er cof amdano. Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar roddion. Mae'n costio mwy na £2,000 bob tro y caiff yr ambiwlans awyr ei alw i achos brys. Mae sicrhau bod y meddygon yn cyrraedd y lle o fewn yr 'awr aur' yn hanfodol a gall gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Ni wnaethant lwyddo i achub bywyd Ethan ond gyda'n cymorth a gwaddol Ethan gallant barhau i achub bywydau llawer o bobl eraill.”

Dywedodd Debra Sima, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y Gogledd-ddwyrain: “Mae'n amhosibl dychmygu'r boen a'r tristwch y mae'r teulu yn eu dioddef. Yn dilyn digwyddiad mor drasig, penderfynodd aelodau'r teulu Ross godi arian i helpu dwy elusen bwysig. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol ac yn dangos gwydnwch anhygoel. Maent wedi codi dros £100,000 i ddwy elusen bwysig a'r swm anhygoel o £50,000 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am Ethan. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r teulu. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn Move a Marathon for Ethan neu sydd wedi cefnogi'r teulu yn ystod y digwyddiad codi arian. Rydych i gyd yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru 24/7.”