Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hynod falch o dderbyn rhodd elusennol o £1000 gan aelodau Gwaun Lodge sy'n rhan o'r Royal Antediluvian Order of Buffaloes.

Cyflwynodd brodyr Gwaun Lodge siec i Eunice O'Hara o Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghanolfan Cymunedol Pheonix yng Ngwdig.

Roedd yr elusen ymysg nifer o elusennau eraill, gan gynnwys Paul Sartori, a wnaeth elwa o roddion diweddar.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwaun Lodge: “Mae Gwaun Lodge wedi dygymod â heriau'r flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn fwy penderfynol nag erioed i barhau i gyfrannu i'r gymuned. Er mwyn dathlu eu hymdrechion parhaus, rydym wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru i dderbyn ein rhodd diweddaraf.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Gwaun Lodge, rydym wir yn gwerthfawrogi'r rhodd o £1,000. Rydym yn mynychu argyfyngau a all beryglu bywyd ac achosi anafiadau difrifol yn aml yn Sir Benfro. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol, ac rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ein gwasanaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau ledled Cymru.”

Mae brodyr Gwaun Lodge yn awyddus iawn i recriwtio aelodau newydd, yn ôl eu llefarydd: “Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gyfrannu i'r gymuned, neu os hoffech fod yn rhan o sefydliad elusengar cymdeithasol a chyfeillgar.”

Mae Gwaun Lodge yn cyfarfod yng Nghanolfan Gymunedol Pheonix yng Ngwdig pob dydd Mawrth am 7:30pm.

Mae croeso i ddynion dros 18 oed ymaelodi, ac maent yn awyddus i groesawu aelodau newydd drwy gydol y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Lodge drwy anfon e-bost at [email protected], neu ewch draw i un o'r nosweithiau.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.