Gwisgodd grŵp cymdeithasol eu hesgidiau cerdded i godi £625 i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am gyn-gydweithiwr.

Gosododd aelodau Clwb Hwyl Dyffryn Ardudwy her i'w hunain i gerdded 3.5 milltir o amgylch Dyffryn Ardudwy a'r ardaloedd cyfagos.

Cymerodd 13 o bobl ran yn y daith gerdded noddedig a gynhaliwyd er cof am Bethan Roberts, un a fu'n gweithio i'r grŵp ac a fu farw ychydig fisoedd yn ôl.

Cynhaliwyd y digwyddiad codi arian ar ôl i unigolion deimlo bod angen iddynt roi rhywbeth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd y grŵp yn falch o gyflwyno siec i gydgysylltydd codi arian cymunedol yr elusen, Alwyn Jones, yn ystod ymweliad diweddar â gorsaf awyr Caernarfon. Ar ôl siarad â meddygon, peilot a staff Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd yr aelodau ginio yng Nghaffi HEMS yr Elusen.

Dywedodd Arweinydd Gwasanaeth Cymorth Anabaledd Dysgu, Gwyn Williams: "Roedd yn anrhydedd ac yn bleser cymryd rhan i godi arian at achos mor bwysig a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Roedd yn ymdeimlad o gyflawni rhywbeth mawr i'r unigolion sydd ag anabledd dysgu.

"Roedd yr ymweliad â'r orsaf awyr yn ddiwrnod gwych allan, gwnaeth yr unigolion fwynhau eu hunain yn fawr, ac edrychodd y peilotiaid, y meddygon ac Alwyn ar ein hôl yn dda iawn ac roedd ganddyn nhw ddigon o amser i siarad â ni. Ynghyd â staff y gegin a Taryn Bennett a ddarparodd ginio hyfryd inni hefyd.

Mae Grŵp Dyffryn Ardudwy yn grŵp cymunedol i oedolion ag anabledd dysgu, sy'n darparu sesiwn grŵp i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu ac annibyniaeth, cymdeithasu ac annog yr unigolion i gymryd rhan mewn celf a chrefft, bingo, pêl-droed a chwaraeon eraill fel boccia.

Mae'r grŵp yn darparu sesiynau ioga, a sesiynau addysgol, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r tîm Iechyd a Lles yng Nghyngor Gwynedd.

Dywedodd Alwyn Jones: "Roedd yn bleser mawr croesawu ein ffrindiau o Grŵp Dyffryn Ardudwy i'r orsaf awyr yn ddiweddar. Deallaf eu bod wedi mwynhau trefnu a chymryd rhan yn y daith gerdded noddedig yn fawr iawn, a chodwyd swm gwych o arian i'r Elusen, er bod naws drist i'r daith gerdded yn dilyn colli ffrind a chydweithiwr, ac felly roedd y daith gerdded er cof amdani hi.

"Rwy'n falch o glywed hefyd iddynt fwynhau eu cinio wedyn yng Nghaffi HEMS. Diolch yn fawr i chi gyd.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.