Daeth dros 100 o feicwyr i bromenâd Llandudno yn ystod Gorymdaith flynyddol Sioe Oleuadau GoldWing er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Denodd y digwyddiad gerbydau dwy a thair olwyn a fu'n cystadlu yn y categorïau beic, treic a goleuadau gorau. Cafodd yr enillwyr eu dewis gan Gynghorydd Llandudno, Harry Saville a llywydd Llewod Llandudno, Norman Mylchreest.

Dyma'r 9fed tro i'r digwyddiad poblogaidd gael ei gynnal a bu'n rhaid i'r beicwyr gwblhau taith o amgylch y dref ddwywaith cyn dychwelyd i'r promenâd.

Yn ogystal â'r digwyddiad yn ystod y dydd, cafwyd gorymdaith gyda'r nos a thaith oleuadau i ddiddanu'r cyhoedd.

Pan ddychwelodd eleni, cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ddewis yn elusen y flwyddyn, ond cododd y digwyddiad llwyddiannus arian i Feiciau Gwaed Gogledd Cymru, Elusennau'r Llewod ac Ambiwlans Sant Ioan hefyd ac roedd modd gweld pob un ohonynt ar y diwrnod. Bydd yr elusen sy'n achub bywydau'n parhau i fod yn elusen y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf.

Cynhaliwyd Gorymdaith Sioe Oleuadau GoldWing yn Llandudno ddydd Sadwrn, 4 Medi, a hynny o dan reolau coronafeirws llym a chafodd yr holl feiciau eu glanhau yn ystod yr arddangosfa.

Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad llwyddiannus, dywedodd Dave Crowley: "O ystyried mai dim ond rŵan rydym yn dod dros y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau Covid yng Ngogledd Cymru, rydym wrth ein bodd â nifer y Perchnogion GoldWing wnaeth droi i fyny.

"Er bod nifer dda wedi mynychu'r digwyddiad yn ystod y dydd, teimlwn fod nifer y torfeydd ar strydoedd Llandudno i wylio'n gorymdaith nos/taith oleuadau ar ei uchaf erioed; roedd y strydoedd dan eu sang ac felly cyflawnwyd prif nod ein digwyddiad, yn ogystal â chasglu rhoddion i elusennau.

"Mae'n bleser gennym gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer 2021 a bwriadwn wneud hynny i'r dyfodol."

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.  

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Dywedodd Alwyn Jones, sy'n un o godwyr arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Roedd yn bleser mawr gennym weld Gorymdaith flynyddol Sioe Oleuadau GoldWing yn dychwelyd i dref Llandudno eleni. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol yn ôl yr arfer a chodwyd swm anhygoel o £3,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

"Hoffwn ddiolch o waelod calon i bwyllgor a threfnwyr Gorymdaith Sioe Oleuadau GoldWing am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu prif Elusen i godi arian iddi a hefyd am ein henwebu fel Elusen y Flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth gwirfoddolwyr caredig Ambiwlans Awyr Cymru a minnau wir fwynhau gweithgareddau'r diwrnod ar bromenâd Llandudno ar ddiwrnod mor braf.

"Diolch yn fawr iawn hefyd i aelodau caredig y cyhoedd a'n cefnogodd ni. Bydd pob rhodd yn helpu ein meddygon i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch yn fawr.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.ambiwlansawyrcymru.com 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.