Mae golffwyr o Glwb Golff Llanymynech wedi codi dros £5,000 i ddwy elusen ambiwlans awyr bwysig.

Cododd y clwb, sydd wedi'i leoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yr arian drwy gynnal cystadleuaeth y 'Captains' Drive In', cystadleuaethau golff elusennol, ocsiynau elusennol a thrwy nifer o roddion gan yr aelodau yng Nghlwb Golff Llanymynech.

Y capteiniaid a'r llywydd a ddewisodd yr elusennau i gael budd o'r ymdrech codi arian yw Nick Clewlow (Capten), Chris Wilkinson (Capten y Menywod), Bryan Evans (Capten Hŷn) a'r Llywydd Pete Ord.

Cododd y digwyddiadau £5,425.82, a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen hofrennydd sy'n achub bywydau: Ambiwlans Awyr Cymru ac Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr.

Dywedodd un o'r capteiniaid, Nick Clewlow: “Dewisodd Capteiniaid a Llywydd Clwb Golff Llanymynech y ddau wasanaeth ambiwlans awyr fel yr elusennau yr hoffent godi arian iddynt yn 2019. Gwnaethom godi cyfanswm o £5,425.82 sy'n cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr (£2,712.91 yr un) gan fod aelodau o'r clwb golff yn byw yng Nghymru a Lloegr am ein bod ar y ffin.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau codi arian. Mae'n hyfryd clywed bod Clwb Golff Llanymynech wedi dewis rhannu'r arian rhwng dwy elusen bwysig sy'n gwasanaethu eu hardaloedd. Diolch i bawb a roddodd arian. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn, fel bob amser.”

Am ragor o wybodaeth am Glwb Golff Llanymynech, ewch i www.llanymynechgolfclub.co.uk