Mae aelodau o glwb golff Sir y Fflint wedi codi dros £4,500 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dewisodd Frances Halewood, sef capten golffwrageddwraig presennol Clwb Golff Old Padeswood ger Yr Wyddgrug, Ambiwlans Awyr Cymru fel ei Dewid Elusen yn ystod ei blwyddyn yn gapten, a ddaw i ben fis Ionawr 2024.

Yn ogystal â threfnu rafflau yn y clwb a gododd tua £400, rhoddwyd bocsys casglu yn y gymuned yn ogystal â chael noddwr.

Cynhaliodd ddiwrnod elusen cyd-gapten yn y clwb, a derbyniwyd cyfraniadau ac anrhegion gan fusnesau lleol ar gyfer yr ocsiwn a'r rafflau, a rhoddodd perchennog y clwb golff wyliau 10 diwrnod i aros mewn fila yn Fflorida hefyd, a gododd £800. Rhoddwyd canran i'r Elusen hefyd gan yr arlwywyr ar y diwrnod.

Dywedodd Frances mai ei bwriad erioed oedd rhoi i Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod Elusen sy'n agos at ei chalon.

Dywedodd: "Rwyf wastad wedi dweud os byddwn yn cynnal digwyddiad elusennol, mai i Ambiwlans Awyr Cymru y byddai'r arian yn cael ei godi am ei fod yn wasanaeth hanfodol sy'n achub bywydau. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am yr elusen.

"Ar ddechrau'r flwyddyn, bu farw un o fy ffrindiau gorau. Cafodd drawiad ar y galon a bu'n rhaid galw'r ambiwlans awyr i ddod ati, felly mae codi arian i'r elusen yn bwysig iawn i mi."

Cyflwynodd Frances siec o £4,694.23 i Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol y Gogledd Ddwyrain, Ambiwlans Awyr Cymru, yn ystod Cinio Nadolig adran y merched.

Dywedodd Debra: “Hoffem ddiolch yn fawr i Frances am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ei Helusen y Flwyddyn. Bydd ei rhodd hael yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd i barhau i wasanaethu pobl Cymru.

"Mae gweithio gyda Frances dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf wedi bod yn hyfryd. Mae hi wedi gweithio'n eithriadol o galed i cymaint arian â phosib i'r Elusen yn ystod ei chapteiniaeth. Hoffem ddiolch iddi'n bersonol am ei hymdrechion anhygoel."

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Mae Frances yn gobeithio y bydd pobl yn helpu i gefnogi'r Elusen y tu hwnt i'w chapteiniaeth, ac mae wedi gadael dau focs casglu yn y Clwb Golff fel bod modd i aelodau barhau i roi arian.

Wrth fyfyrio ar lwyddiant ei hymgyrch codi arian, dywedodd: "Rwy'n falch iawn o'r hyn rwyf wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn i helpu i godi £4,694.23. Roeddwn eisiau codi mwy o arian nac unrhyw gapten benywaidd arall, ac rwy'n falch iawn o fod wedi cyflawni hynny ar gyfer achos fel Ambiwlans Awyr Cymru sy'n werth chweil."