Mae Jin unigryw a greodd hanes fel y cyntaf i gael ei ddistyllu ar gopa'r Wyddfa wedi gwerthu mewn ocsiwn elusennol ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n ei wneud yn jin mwyaf costus Cymru.

Cafodd ei gynhyrchu gan Ddistyllfa Whisgi Aber Falls, y cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru ers mwy na chanrif, a gwerthwyd y botel o Summit Gin: Mountaineers Cut am swm syfrdanol o £1,085 – yr un uchder mewn metrau â'r Wyddfa.

Gyda dim ond tair potel yn bodoli, hon yw'r unig botel sydd ar gael i'r cyhoedd, gan ei wneud yn un o'r jiniau mwyaf prin sy'n bodoli.

Mae ei natur unigyrw hefyd yn deillio o'r ffaith iddo gael ei greu gan ddefnyddio cynnyrch botanegol a gasglwyd ar lethrau'r Wyddfa, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth arbennig gan y llywodraeth leol oherwydd statws gwarchodedig yr ardal.

Y cynigydd buddugol oedd Rogan Chester, sy'n 29 oed o Borthmadog. Mae Mr Chester yn fynyddwr brwd ac mae hefyd yn aelod gwirfoddol o dîm Achub Mynydd Aberglaslyn, felly roedd yr ocsiwn yn agos at ei galon.

Dywedodd: "Drwy fod yn wirfoddolwr dros elusen sy'n dibynnu ar roddion, rwy'n deall pa mor bwysig yw pob ceiniog i Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae adegau pan rydym yn gweithio'n agos gyda'n gilydd felly rwy'n ymwybodol o'r gwaith gwych a wneir ganddynt. Rwyf nid yn unig wedi cyfrannu at yr achos, ond rwyf hefyd wedi cael gafael ar ddarn bach fy hun o hanes Cymru. 

"Dydw i ddim fel arfer yn gwario cymaint â hyn ar fotel prin o alcohol ond roeddwn i'n ddigon ffodus i ennill ychydig ar y Grand National ac roeddwn i'n chwilio am fuddsoddiad. Mae nodyn berchennog ar y botel fwyaf costus o jin yng Nghymru yn deimlad swreal, ond rwy'n Gymro balch a gobeithio y bydd yn werth ychydig yn fwy yn y dyfodol."

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru yr Elusen: "Gan weithio gyda thîm hyfryd Aber Falls, mae hwn wedi bod yn un o'r profiadau codi arian mwyaf cyffrous rydym wedi'i gael. Cyflwynodd llawer o bobl gynigion hael yn ystod yr ocsiwn ac rydym yn diolch i bob un ohonynt.

"Yn arbennig, diolchwn i Rogan am ei gynnig buddugol anhygoel. Mae'n braf gwybod y bydd y jin yn aros yng Nghymru a'i fod gyda Rogan sydd, fel ninnau, yn ymrwymedig i helpu'r rhai hynny mewn angen drwy ei waith gyda'r tîm Achub Mynydd."