Mae gig elusennol llwyddiannus a gynhaliwyd er budd Ambiwlans Awyr Cymru wedi codi £687 i'r elusen sy'n achub bywydau.

Trefnodd Del Page, o Landysul, y gig elusennol fis diwethaf i nodi 21 mlynedd ers sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru.

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Denodd y gig oddeutu 70 o bobl. Cafodd ei gynnal yng Ngwesty'r Grannell yn Llanbedr Pont Steffan ac, yn garedig iawn, caniataodd y westywraig, Jo Eveleigh, i'r lleoliad gael ei ddefnyddio am ddim.

Dyma'r ail gig elusennol i Del ei drefnu er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Cododd Del £1,050 i'r Elusen yn 2020 pan gynhaliwyd gig yng Ngwesty'r Porth yn Llandysul.

O ganlyniad i gyfyngiadau COVID, cafodd y gig blaenorol ei gynnal yn yr awyr agored mewn pabell fawr. Eleni, daeth llawer mwy o bobl i gefnogi'r gig ar y noson.

Wrth drafod pwysigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru a pham ei fod am godi arian i'r Elusen, dywedodd Del: “Gan ein bod yn byw mewn ardal wledig, roeddem yn teimlo ei bod yn Elusen ddelfrydol i godi arian iddi. Rydym ni wedi gweld yr hofrenyddion ar waith yn y cwm islaw ac yn gwybod ei fod yn wasanaeth hanfodol pan na all ambiwlansys ateb y galw pan fydd amser yn brin. Rydym yn teimlo bod Ambiwlans Awyr Cymru yn hanfodol a ninnau'n byw mewn ardal wledig.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae Del a'i bartner, Annette McGrath, yn falch iawn o'r swm y maent wedi'i godi ac maent wedi dweud y byddant yn fodlon trefnu gig arall i godi arian yn y dyfodol agos.

Dywedodd Helen Pruett, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Hoffwn ddiolch o galon i Del am drefnu gig llwyddiannus arall er budd ein Helusen i nodi 21 mlynedd ers ei sefydlu. Gyda'i gilydd, mae'r ddau gig wedi codi swm anhygoel o £1,737. Diolch i Jo Eveleigh a ganiataodd i'r gig gael ei gynnal am ddim yng Ngwesty'r Grannell ac i bawb a gefnogodd y digwyddiad hwn i godi arian. Mae'n bleser mawr gennym glywed bod Del yn bwriadu trefnu gig arall yn y dyfodol.

“Rydym yn mynychu argyfyngau a all beryglu bywyd ac achosi anafiadau difrifol yn aml yng Ngheredigion. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol, ac rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd ein gwasanaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.