Mae mam ddiolchgar o Rydaman wedi codi £350 drwy redeg 50 milltir i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i feddygon yr Elusen geisio achub bywyd ei thad y llynedd.

Y meddygon hedfan oedd y cyntaf i gyrraedd ar ôl i Gerry, tad Gemma Pritchard, dioddef trawiad mawr ar y galon ym mis Chwefror 2019. Yn anffodus, bu farw yn yr adran gofal dwys ddeuddydd yn ddiweddarach.

Wrth sôn am y gofal a roddwyd i'w thad, dywedodd Gemma, sy'n fam i un: “Roedd y gwasanaeth a roddwyd ganddynt yn wych. Roedd pob aelod o'r criw yn achub ar bob cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, a gweithio'n ddiflino i achub bywyd fy nhad. Ond er gwaethaf holl ymdrechion y criw, yn drist iawn bu farw ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach. Byddaf yn ddyledus iddynt am byth am eu holl ymdrechion y noson honno.

“Roedd colli dad mor anodd i ni ar ôl colli mam yn 2011. Bu’n rhaid i ni ddioddef holl dristwch colli rhiant unwaith eto.”

Gwnaeth Gemma, sy'n gweithio ym Mhopty Jenkins ac fel glanhawr, gwblhau'r her 50 milltir mewn 13 diwrnod. Nid oedd rhedeg yn ail natur i Gemma cyn iddi wneud yr ymdrech codi arian. Ond bu ei gŵr Owain a'i merch Lillie-May, sy'n bump oed, yn ei chefnogi i gwblhau'r her.

Rhedodd Owain y 10 milltir olaf gyda Gemma. Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim yn gallu rhedeg am 10 eiliad cyn yr her: rhoddodd ef hwb mawr i mi i gyflawni fy nod.

“Y tro cyntaf i mi redeg, gwnes i lwyddo i wneud 3 milltir, ac wedyn 5 milltir y tro nesaf, wedyn 6 milltir ac wedyn es ati yn syth i redeg 10 milltir. Mae fy nhraed yn dal i ddioddef. Roeddwn i'n gwybod y byddai hyn yn her fawr iawn i mi.”

Hon oedd ymdrech codi arian gyntaf Gemma, ond mae eisoes yn meddwl am wahanol ffyrdd o godi arian i'r elusen yn y dyfodol.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi codi cymaint o arian, er y byddwn i wedi hoffi codi llawer mwy. Rwy'n dal yn hapus iawn â'r hyn rwyf wedi ei godi yn fy ymdrech gyntaf, ond nid yr olaf, i godi arian i griw mor wych.

“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd arian. Rwyf mor falch fy mod i wedi cwblhau fy her.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Gemma i'n helusen. Mae'n wych clywed bod Gemma am ddangos ei chefnogaeth i'n meddygon, er gwaethaf ei cholled.  Mae'n ysbrydoledig clywed iddi ddewis gwneud ymdrech codi arian 50 milltir, er na allai redeg y pellter hwnnw cyn yr her.

“Diolch i Gemma a phawb a'i chefnogodd. Mae'n bleser mawr gennym glywed bod Gemma yn gobeithio codi mwy o arian i'n Helusen yn y dyfodol.”