Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn her rithwir sy'n addas i bawb.

Mae'r Elusen Gymru gyfan, sy'n dibynnu ar haelioni ei chefnogwyr i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau, wedi cyhoeddi ei bod yn ail-lansio digwyddiad poblogaidd, sef Fy20.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad yn ystod pen-blwydd yr Elusen yn 20 oed, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn i'r cyhoedd gymryd rhan a meddwl am ffyrdd creadigol eu hunain i gwblhau'r her.

Yr hyn sy'n dda am yr her yw ei bod yn addas i bawb. Gwahoddir cyfranogwyr o bob oedran a gallu i herio eu hunain drwy roi cynnig ar rywbeth newydd neu gyflawni nod mewn hobi y maent eisoes wrth eu boddau yn ei wneud. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys nofio am 20 milltir, pobi 20 o ddanteithion blasus, gwau am 20 munud y dydd neu redeg am 20 diwrnod o'r bron. 

Bydd yr her yn digwydd yn ystod mis Hydref ac ni fydd yn costio dim i gymryd rhan. Fodd bynnag, anogir cyfranogwyr i godi arian. Bydd y rhai a fydd yn codi o leiaf £100 yn cael bathodyn pin arbennig Fy20 am eu hymdrechion, neu Degan Masgot Draig Del (i gefnogwyr iau yr Elusen).

Gofynnir i ysgolion a grwpiau ieuenctid gymryd rhan yn yr her hefyd, fel grŵp neu yn unigol. 

Yn 2021, pan gafodd her Fy20 ei lansio gyntaf gan yr Elusen, cwblhaodd 20 o aelodau o swyddogion gwarantedig ac Ystafell y Rhingylliaid 14 Catrawd y Signalau (Rhyfela Electronig) ddiwrnod llethol o 20 gweithgaredd corfforol.

Gwnaethant osod yr her iddynt eu hunain i gyflawni 18 o ymarferion cylchol 20 o weithiau, cyn seiclo 20km a rhedeg 20km yn dilyn hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gatrawd yn llawn balchder: “Aeth ein her yn dda iawn. Gan fod lefelau ffitrwydd pobl yn wahanol, roeddem wedi'n gwasgaru dros y llwybr cyfan, ond gweithiodd pawb yn galed a llwyddodd rhai ohonom i dorri record bersonol.

“Erbyn diwedd y dydd, roedd pob un ohonom yn hapus iawn gyda'r hyn roeddem wedi'i gyflawni ac yn falch ein bod wedi llwyddo i godi arian i elusen mor wych.”

Dim ond chwech oed oedd Isla Wilson, merch ysgol o Sir Gaerfyrddin, pan gymerodd ran yn y digwyddiad. Darllenodd 20 o lyfrau, cymysgedd o rai Cymraeg a Saesneg, mewn 20 diwrnod, a chodi dros £500 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Isla: “Roeddwn i am helpu i gadw'r ambiwlans awyr yn effro drwy'r nos. Maen nhw'n helpu llawer o bobl.”

Dywedodd ei thad balch, Tom Wilson: “Mae darllen 20 llyfr mewn 20 diwrnod yn rhywbeth na fyddai llawer ohonom yn meddwl ei wneud i godi arian. Rwy'n falch iawn bod Isla wedi meddwl am y syniad i ddechrau ac wedi dal ati, yn enwedig am ei bod mor ifanc, ac am godi llawer mwy na'i tharged codi arian.

Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gennym ailgyflwyno her Fy20 yn dilyn ei llwyddiant yn 2021. Mae cymryd rhan yn ffordd wych o gefnogi ein Helusen wrth ddysgu sgil newydd neu wneud rhywbeth sy'n bwysig i chi. Gallwch ddewis rhywbeth a fydd yn eich ysgogi, neu her rydych wedi bod yn awyddus i'w chyflawni ers tro ond heb wneud hynny cyn nawr. Gall plant gymryd rhan yn yr hwyl gyda chi, hefyd. 

“Dyma ddigwyddiad codi arian sy'n berffaith i bawb, ac mae digwyddiadau codi arian, fel Fy20, yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”

Os byddwch yn awyddus i roi cynnig ar yr her, cofrestrwch drwy ymweld â thudalen Facebook dynodedig Fy20 (https://bit.ly/My20) neu drwy greu tudalen Just Giving yn https://www.justgiving.com/campaign/my20.