Mae grŵp o ffrindiau o Ddolgellau wedi codi dros £9,000 i achosion sy'n agos at eu calon drwy gwblhau marathon pellter eithafol Dyfi Ultra.

Llwyddodd y saith gŵr, sef Huw Ynyr Evans, Iwan Gwyn Evans, Rhys Evans, Dylan Evans, Gerwyn Thomas, Llion Lloyd a Thomas Hughes i guro'u targed codi arwain gwreiddiol o £1,000 mewn ychydig wythnosau i godi arian i dair elusen – Ambiwlans Awyr Cymru, MIND a Sefydliad Prydeinig y Galon. Wedyn, cynyddwyd y targed i £3,000 a llwyddwyd i godi swm anhygoel o £9,027.

Roedd marathon pellter eithafol Dyfi Ultra a gynhaliwyd fis diwethaf yn 50 milltir o hyd, ac yn cynnwys codi i uchder o 3,000 o fetrau wrth i'r rhedwyr redeg ar hyd arfordir, llwybrau, mynyddoedd, afonydd a choedwigoedd yn Ne Eryri, gan redeg dros 15 copa i gyd.

Roedd y tîm yn ddiolchgar am gefnogaeth aelodau teulu ar gopaon y mynyddoedd ac yn arbennig, wrth y mannau cadarnhau.

Dywedodd Tom Hughes: "Roedd hi'n ymdrech aruthrol gan y tîm i gwblhau her wirion. Roedd angen i ni ddangos cryn dipyn o benderfyniad ond mae ein dyled yn enfawr i'n teulu a'n ffrindiau ac ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eu cefnogaeth nhw. Gwnaethon nhw'n siwr ein bod yn dal ati i fynd a'n helpu i gael egni hollbwysig dros yr 50 milltir."

Hoffai aelodau'r tîm ddiolch i bawb a'u cefnogodd ac a ddaeth i'w hannog a'u cymell ar hyd y daith.

Ychwanegodd Tom: "Roedd sŵn y bloeddio wrth gyrraedd a gadael pob man cadarnhau a gorsaf fwydo ac yfed yn fendigedig. Roedd gweld y wynebau cyfarwydd a'u hymdrech i'n cefnogi ni yn hwb i forâl ac yn troi meddyliau negyddol yn rhai cadarnhaol."

Cafodd y tîm anogaeth gadarnhaol gan athletwyr eraill hefyd, rhai y gwnaethant gyfarfod â nhw yn ystod yr her ac sydd wedi dod yn ffrindiau iddynt ers hynny.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Mae'r saith wrth eu bodd eu bod wedi codi cymaint o arian i'r elusen, dywedodd Tom: "Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd i'r elusennau hefyd. Mae wedi cael effaith enfawr ar ein penderfyniad i gwblhau'r ras. Allem ni ddim ildio ar ôl yr holl arian a godwyd. Diolch.”

Wrth fyfyrio ar y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'r elusennau, dywedodd Iwan Evans: "Nid oedd rhaid meddwl ddwywaith am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'n helusennau gan ein bod yn dibynnu cryn dipyn ar y gwasanaeth hwn. Rydym yn byw mewn ardal anghysbell a gwledig sydd â'i heriau unigryw ei hun o ran isadeiledd a gofal iechyd, lle nad yw cludiant confensiynol yn ateb y galw.

"Yn syml, mae pob un ohonom naill ai wedi defnyddio'r gwasanaeth hwn neu'n adnabod rhywun sydd wedi elwa ar yr Ambiwlans Awyr, felly roeddem yn hapus i'w chefnogi. Yn anffodus, wrth hyfforddi, cafodd un o ffrindiau'r tîm ddamwain yn y gweithle yn lleol lle'r oedd angen gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, felly daeth pob un ohonom i sylweddoli'n fwy nag erioed pa mor bwysig yw'r gwasanaeth.

"Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad nawr, roeddem yn falch ohonom ein hunain am lwyddo i orffen y ras wrth reswm, ond rwy'n credu mai'r atgof hapusaf sydd gen i o'r profiad cyfan oedd gweld haelioni a charedigrwydd ein cymuned leol a phobl eraill a'n helpodd i godi'r arian hwn. Mae cefnogaeth pobl, ar y diwrnod ac wedi hynny hefyd, wir wedi rhoi hwb enfawr i ni.

"Os oes unrhyw un ohonynt yn darllen hwn, diolch o waelod calon, ni allem fod wedi gwneud hyn hebddoch chi. Ac i'r rheini ohonoch yn yr Ambiwlans Awyr, diolch i chi hefyd am yr holl waith hanfodol rydych chi'n ei wneud. Iechyd Da!”

Dywedodd Alwyn Jones, cydlynydd codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau mawr i'r tîm am godi swm anhygoel o £9,027, a fydd yn cael ei rannu rhwng tair elusen bwysig. Cwblhaodd y saith ohonynt her gorfforol galed y byddai llawer o bobl yn amharod i'w derbyn. Mae eu penderfyniad i gwblhau'r her yn amlwg ac mae'r rhoddion yn adlewyrchiad o'r dasg anodd a gwblhawyd ganddynt. Diolch yn fawr iawn hefyd i'r teuluoedd a'r ffrindiau a fu'n cefnogi'r tîm ar y diwrnod a diolch yn fawr i bawb a roddodd i'r ymgyrch codi arian."

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.