Mae bachgen ysgol o Sir y Fflint a'i ffrindiau wedi codi swm anhygoel o £9,200 ar gyfer tri achos pwysig a ddaeth i'w helpu ar ôl iddo ddioddef dau doriad i'w benglog ar ôl damwain anghyffredin mewn parc.

Ym mis Mehefin roedd Cory Pygott, sy'n 14 oed, allan gyda'i ffrindiau pan gwympodd oddi ar siglen a cholli ymwybyddiaeth ar ôl iddo daro ei ben ar far metel. 

Cerddodd y disgyblion o Ysgol Uwchradd Argoed, sef Cory, Ieuan Alan, Ben Worrall, Clément Vick, James Brownbill, Isaac Godwin, Jac Jones, Lucca Jones a JJ Griffiths 14 milltir o safle'r ddamwain ym Mharc Argoed i Ysbyty Maelor Wrecsam er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a ward plant yr ysbyty.

Ar ôl ei ddamwain anfonwyd ambiwlans ac ambiwlans awyr i helpu Cory ac, oherwydd ei gyflwr, penderfynwyd wedyn bod angen ambiwlans awyr arall gyda meddyg ymgynghorol yn bresennol.  

Er gwaethaf y pryderon cychwynnol y byddai angen hedfan Cory i Ysbyty Athrofaol Royal Stoke neu Ysbyty Plant Alder Hey, roedd yn ddigon sefydlog i fynd yn syth i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans ar y ffordd. 

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Dywedodd Stephen, sef tad balch Cory: “Mae Cory bellach 100 y cant yn well. Aeth y daith gerdded yn dda iawn ac rydym i gyd yn falch iawn o'r bechgyn. Gwnaethant godi mwy na £9,2000 sy'n swm gwych a fydd yn mynd i'r gwasanaeth ambiwlans, ward plant Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ambiwlans Awyr Cymru.”

Gan fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod, dywedodd Cory o Fynydd Isa: “Byddwn mewn cyflwr llawer mwy difrifol pe na bai fy ffrindiau a Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru wedi gweithredu mor gyflym ag y gwnaethant. Roeddwn yn gwaedu o'm clustiau ac roeddwn yn anymwybodol. Gwnaethant ffonio 999 a gwneud yn siŵr nad oeddwn yn tagu ar fy nhafod, a gwnaethant sicrhau fy mod yn yr ystum adfer.” 

Mae’r teulu’n ddiolchgar iawn i’w ffrindiau ysgol am helpu i achub bywyd Cory. Gwnaeth ei ffrind, Yazmin Richardson, ei rwystro rhag tagu drwy gael ei dafod allan o gefn ei wddf, a gwnaeth ei ffrind, Clément, ei roi yn yr ystum adfer. 

Rhedodd James ac Ieuan i dŷCory yn y pentref lle roedd ei chwaer, Lucy, sy'n 16 oed, gartref. Llwyddodd Lucy i gael help gan ffrind y teulu, Des, ac aeth ef â nhw yn ôl at Cory. 

Aeth Yasmin a Clément i gael help hefyd, ac arhosodd Ben, sy'n 13 oed, gyda Cory, er mwyn parhau i siarad ar y ffôn â'r gwasanaethau brys. 

Dywedodd Stephen, sef tad Cory: “Hoffwn i'r plant gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Gwnaethant lwyddo i reoli'r sefyllfa a hwythau mor ifanc. Roedd yr ambiwlans a’r parafeddygon wrth ochr Cory o fewn 10 munud, a'r ambiwlans awyr cyntaf yn fuan wedyn, ac yna cyrhaeddodd yr ail ambiwlans awyr gyda meddyg ymgynghorol a fyddai wedi gallu rhoi Cory mewn coma bwriadol. Diolch byth, roedd Cory yn gwella ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans cyffredin. 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhywbeth rydych yn ymwybodol ohono ac mae'n wasanaeth hanfodol i'w gael. Fodd bynnag, ar ôl damwain Cory, rydym yn gwerthfawrogi'r ambiwlans awyr yn fwy nag erioed.” 

Dywedodd Debra  Sima, swyddog codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Dylai'r bechgyn fod yn hynod falch o'r swm anhygoel y maent wedi'i godi ar gyfer tri achos pwysig – ni allwn ddiolch digon i chi. Er ei fod wedi gwella o ddau doriad i gefn ei benglog, syniad cyntaf Cory oedd codi arian i'r gwasanaethau a wnaeth ei helpu, sy'n ysbrydoledig. Mae'n wych clywed ei fod wedi gwella'n llwyr.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn ymgyrch codi arian y bechgyn, neu a roddodd arian iddo. Rydych i gyd yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i fod yno i bobl pan fydd ein hangen arnynt fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.