Cyhoeddwyd: 01 Chwefror 2024

Mae grŵp o saith ffrind wedi codi £1,744 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl cwblhau Hanner Marathon Conwy er cof am ffrind poblogaidd â ‘chalon aur’.

Bu farw Gareth Bowen, neu ‘Kimo’ i'w ffrindiau, yn drasig ym mis Awst 2023.

Roedd Gareth, a oedd yn boblogaidd iawn ym Mrychdyn, Sir y Fflint, bob amser yno i helpu eraill, ac mae ei ffrindiau a'i deulu wedi'i ddisgrifio'n ‘ddyn gwirioneddol hyfryd’.

Gwnaeth ei ffrindiau Amy Boyd, Rachael Wintle, Paul Johnson, Sarah Davies, Simon Quick, Jo Robinson a Laura Thrift herio eu hunain i gymryd rhan yn yr hanner marathon er budd Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r Elusen helpu tîm achub RNLI i ddod o hyd i Gareth. 

Dywedodd Amy: “Gwnaethom benderfynu dewis Hanner Marathon Conwy gan ein bod yn gwybod y byddai'n her fawr i ni, ond mae'n rhywbeth y byddai Gareth wedi'i gyflawni'n hawdd. Cwblhaodd Gareth sawl hanner marathon yn ogystal â marathonau llawn – heb hyfforddi fawr ddim.”

Yr enw a ddewiswyd ar gyfer y tîm oedd ‘crazy diamonds’, sef hoff gân Gareth, ac mae hefyd yn ddisgrifiad addas iawn ohono fel person – roedd 'yn ddiemwnt go iawn'.

Dywedodd Jo Robinson, a hyfforddodd am dri mis, fod yr her yn un 'anodd ond gwych', a'i bod wedi mwynhau'r profiad cyfan ar y diwrnod.

Dywedodd Rachael Wintle: “Roeddwn i'n teimlo bod sawl arwydd o gefnogaeth gan Gareth ar hyd y ffordd yn ein hannog i ddal ati – cân ar ddechrau'r ras ac enfys a ymddangosodd ar y diwedd.Fues i'n hyfforddi am 16 wythnos, teirgwaith yr wythnos, ac roedd hi'n lladdfa, ond drwy gofio pam roedden ni'n cymryd rhan, sef cefnogi elusen sy'n helpu i achub bywydau, gwnaethon ni lwyddo i gyrraedd y llinell derfyn.” 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Ychwanegodd Amy: “Roedd y tywydd ar y diwrnod yn sicr yn heriol, ond roedden ni'n teimlo bod Gareth yno gyda ni i'n cefnogi a'n cymell. Roedd yn brofiad emosiynol iawn, ac rydyn ni i gyd yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni.

“Rydyn ni'n sicr yn awyddus i gwblhau her arall yn y dyfodol er cof am Gareth.”

Dywedodd Deb Sima, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i dîm Crazy Diamonds am ymgymryd â'r her enfawr er cof am Gareth. Byddai Gareth wedi dathlu ei ben-blwydd ar benwythnos yr hanner marathon, gan olygu bod y diwrnod ei hun yn fwy arbennig byth. Roedd yn ffordd hyfryd o gofio amdano. Mae'n anrhydedd i ni fod y tîm wedi dewis codi arian ar gyfer ein Helusen er cof am Gareth, a chodi swm anhygoel o £1,744.

“Mae'n amlwg bod Gareth yn ddyn hyfryd y mae colled ar ei ôl. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a roddodd arian.”