Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2024

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o fod wedi cyhoeddi cyfleoedd newydd i wirfoddoli drwy 'awyrenwyr y dyfodol' ('future flyers').

Bydd 'Awyrenwyr y dyfodol', a gefnogir gan grant gan Gymdeithas Adeiladu Principality, yn anelu at roi hwb hanfodol i wirfoddolwyr ifanc sy'n chwilio am waith.

Bwriad y ddau gyfle newydd i wirfoddoli yw rhoi cyfle i wirfoddolwyr dan 25 oed gofrestru â'r cynllun, ac i roi pecyn 'awyrenwyr y dyfodol' iddynt. 

Mae'r pecyn yn cynnwys cofnodlyfr fel bod modd i'r gwirfoddolwyr gofnodi'r oriau a dreuliwyd yn gwasanaethu, wedi'i ddilysu gan eu goruchwyliwr. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn cwblhau cwrs ar-lein a fydd yn trafod materion fel cynllunio ariannol, ysgrifennu CV a chynllunio gyrfa.

Ar ôl cwblhau'r cwrs a'r nifer o oriau gwirfoddoli y cytunwyd arno, bydd y gwirfoddolwr ifanc yn derbyn tystysgrif cwblhau yn ogystal â chofnod sgiliau.

Bydd modd i'r ymgeisydd swydd fynd â'r pecyn, yn ogystal â geirda os bydd angen, i gyflogwr neu diwtor cwrs yn y dyfodol fel tystiolaeth o'u cyfrifoldeb cymunedol a chymdeithasol.

Dywedodd Sandra Hembery, Rheolwr Datblygu Gwirfoddolwyr yr Elusen: "Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio 'awyrenwyr y dyfodol'. Mae hwn yn gyfle gwych i wirfoddolwyr 'awyrenwyr y dyfodol' feithrin sgiliau gwerthfawr, wrth ennill profiad a thystiolaeth i'w cyflwyno i ddarpar gyflogwyr neu gynrychiolwyr coleg. Mae'n ffordd wych i'r gwirfoddolwr ddangos ei waith caled a'i ymrwymiad i'n helusen sy'n achub bywydau. Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn Ambiwlans Awyr Cymru, ac mae eu gwirfoddoli yn ein helpu i barhau i achub mwy o fywydau ledled Cymru."

Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth barhaus yr Elusen, gyda rhan ohono'n anelu at gefnogi pobl ifanc drwy'r 'Rhaglen Ymgysylltu â Phobl Ifanc'. Mae'r gwasanaeth Cymru gyfan yn ymrwymo i gynnig y cyfle i bobl ifanc ledled Cymru ddatblygu, ac yn anelu at gael cefnogwyr yn y dyfodol.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Yn y cyfamser, bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn peilota cynllun arall yng Nghwmdu, Abertawe - y cynllun uwchgylchu. Bydd yr Elusen yn aml yn derbyn dodrefn mawr o safon, ond gallant fod yn hen ffasiwn.

Bydd y cynllun uwchgylchu yn trawsnewid yr eitemau i greu paentiadau â sialc, gweithiau atgyweirio, gwaith ail-glustogi, neu baentiadau llawrydd.

Pan fydd yr eitem wedi'i chwblhau, caiff ei gwerthu yn siopau elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyda nodyn yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd yn ogystal ag ychydig am y gwirfoddolwr a wnaeth hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyfleoedd i wirfoddoli, cysylltwch â [email protected]