Mae cynorthwyydd meithrin o Bowys wedi cymryd naid ac wedi codi £10,500 hyd hyn i achosion sy'n agos at ei chalon.

Esgynnodd Ffion Jones, 21, i'r awyr i gwblhau ei nenblymiad dros ddwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl - er cof am ei chyfnitherod, Casey a Kelly Breese, a'u tad, Nick.

Rhagorodd Ffion Jones ei tharged o godi £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Alder Hey, yn Lerpwl. Mae'r arian yn dal i lifo i mewn yn dilyn cwblhau ei nenblymiad.

Er mwyn codi'r arian, trefnodd Ffion, o Gaersws, nosweithiau cwis, prynhawn coctels, stondinau cacennau, digwyddiad pacio bagiau elusennol a digwyddiad gwisg ffansi yn y gwaith gyda'r plant.

Yn 2011, bu farw Casey Breese, 12 oed, pan syrthiodd postyn gôl ar ei ben pan oedd yn chwarae gyda'i ffrindiau.

Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Casey, bu farw Kelly, ei chwaer fawr, yn drasig yn 18 oed pan aeth y car roedd yn ei yrru i mewn i goeden. Ddwy flynedd yn ôl, bu'r teulu'n galaru eto yn dilyn marwolaeth sydyn Nick, tad Casey a Kelly.

Ers yn blentyn bach, roedd Ffion wedi bod eisiau nenblymio ond roedd am gael rheswm dros wneud hynny, ac mae hi wrth ei bodd o gael y cyfle o'r diwedd i fentro ym Maes Awyr Abertawe.

Ychwanegodd: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sydd bob amser wedi bod yn bwysig i fi a'm teulu. Roedd fy nghefnder mewn damwain drasig lle syrthiodd postyn gôl ar ei ben a'i wasgu. Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a gwnaethant ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Amwythig ond, yn anffodus, bu farw yn fuan ar ôl iddo gyrraedd. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl, ac felly rwyf am godi cymaint o arian â phosibl i Ambiwlans Awyr Cymru.

“O'r diwedd rwyf wedi cwblhau fy nenblymiad, dwy flynedd yn ddiweddarach a saith ymgais wahanol.Roedd yn hollol wych, ac yn brofiad anhygoel. Er fy mod wedi gorfod aros yn hirach na'r disgwyl, roedd y naid yn 100% yn werth ei gwneud. Wnaf i fyth anghofio'r cynnwrf a'r cyffro pan agorodd ddrws yr awyren. Yn sicr rwy'n annog unrhyw un sy'n ystyried gwneud - ewch amdani!”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru - mae Ffion hefyd yn codi arian i Ysbyty Plant Alder Hey ar ôl i'r ysbyty achub bywyd ei ffrind agos, Willow.

Hoffai Ffion ddiolch i bawb a'i chefnogodd hi yn ei digwyddiadau codi arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Ffion yn ferch anhygoel, a oedd, er dioddef yr holl dristwch, eisiau codi arian i ddau achos a oedd yn bwysig iddi. Er gwaethaf siom y nenblymiad yn cael ei ohirio ar sawl achlysur, roedd Ffion yn benderfynol o barhau i godi arian a'i gwblhau pan oedd yn bosibl. Mae'n deyrnged hyfryd er cof ei chyfnitherod a'i hewythr. Llongyfarchiadau i Ffion am wneud ei nenblymiad ac am fynd heibio ei tharged o godi £10,000.

“Mae'n bleser gennym mai ein Helusen a ddewiswyd i elwa o'i digwyddiad codi arian. Mae Ffion wedi helpu i godi swm anhygoel i'r ddau achos. Bydd ymdrechion codi arian, fel un Ffion, yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ei hangen arnynt fwyaf. Diolch yn fawr, Ffion. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich help.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.