Bydd chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Dan Lydiate yn beirniadu sawl gwobr cyn i Glwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen gychwyn ar daith tractors elusennol y Llywydd, ddydd Sul (19 Rhagfyr).

Bydd y digwyddiad gwych hwn yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Cymorth Canser Macmillan. Bydd y tractors yn cyfarfod ym Marchnad Aberhonddu o 3:30pm ymlaen a bydd y beirniad yn dechrau ar y gwaith o ddewis yr enillwyr am 4pm. Yn anffodus ni chaniateir gwylwyr yn y farchnad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Clwb, Sian Healey: “Rydym oll yn gwybod pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i'n cymunedau gwledig, ynghyd â gwaith Cymorth Canser Macmillan.

“Bydd Dan Lydiate yn bresennol ac yn dewis y Tractor sydd wedi'i Addurno Orau a'r Gyrrwr â'r Wisg Orau, a bydd y gwobrau yn cael eu rhoi gan Wynnstay.”

Bydd Siôn Corn a'i gorachod wedi eu lleoli ar hyd y daith ac ar y diwedd ym maes parcio Morrisons Aberhonddu â'u bwcedi casglu arian ar gyfer y ddwy elusen.

Mae llwybr ac amserlen y daith fel a ganlyn:

Gadael Marchnad Aberhonddu – 4:15pm

Cylchfan Brynich – 4:25pm

Groesffordd – 4:30pm

Troedyrhan – 4:35pm

Hills (Bishops Meadow) – 4:40pm

Llandew – 4:45pm

Garthbrengy – 5:00pm

Llandefaelog – 5:10pm

Cradoc – 5:20pm

Y Batel – 5:25pm

Pontfaen – 5:30pm

Merthyr Cynog – 5:40pm

Capel Uchaf – 5:55pm

Capel Isaf – 6:10pm

Pwllgloyw – 6:15pm

Maes Parcio Morrisons – 6:30pm

Bydd Maer Aberhonddu, John Powell hefyd yn bresennol ac yn rhannu mins peis â'r gyrwyr.

Mae'r clwb hefyd wedi bod yn cynnal raffl a fydd yn cael ei thynnu ar ddiwedd taith y tractors, lle bydd cyfle i ennill gwobrau gwych gan gynnwys hamperi Nadolig. Gallwch brynu tocynnau raffl gan unrhyw un o'r aelodau. 

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i CFfI Pontfaen sy'n codi arian ar gyfer dwy elusen bwysig drwy gynnal taith elusennol tractors wedi eu goleuo. Bydd yr achlysur codi arian hwn yn ddigwyddiad gwych i bawb o bob oedran, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod i gefnogi'r holl yrwyr sy'n cymryd rhan. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu'r elusen i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf."