01/06/2020

Mae ffermwyr ifanc talentog wedi dod at ei gilydd mewn ffordd rithwir i greu fideo ohonynt yn canu, er mwyn pwysleisio'r neges i ‘aros gartref ac achub bywydau’.

Gwnaeth tua 20 o aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog recordio eu hunain yn canu yn ystod y cyfyngiadau symud. Nod y fideo oedd rhoi gwên ar wynebau pobl yn ystod y cyfnod hwn, gan godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Mae'r gân wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae dros 14,000 o bobl wedi gwrando arni, ac maent wedi codi £200 hyd yn hyn.

Wrth drafod y rheswm dros ddewis yr elusen, dywedodd Mark Williams, cyn-aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsenni: “Mae sawl elusen yn ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ac roeddem am helpu mewn unrhyw ffordd bosibl. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hollbwysig i'r gymuned wledig, a gall fod angen i unrhyw un ffonio'r gwasanaeth ar unrhyw adeg, fel sydd wedi digwydd i rai ffermwyr yn y gorffennol.

“Drwy greu'r fideo, roeddem am roi rheswm i bobl wenu. Roedd hi hefyd yn ffordd wych o godi arian i elusen a rhannu neges bwysig i aros gartref a chadw'n ddiogel.”

Wrth siarad am ymateb y cyhoedd, dywedodd Mark: “Rydym wedi derbyn cymaint o negeseuon caredig am y Clwb Ffermwyr Ifanc a'i holl waith caled. Rydym yn falch iawn bod pobl wedi gallu rhoi arian i'r elusen wych hon. Gobeithio y bydd y neges ar Facebook, yn ogystal â'r ddolen i godi arian, yn gallu cael eu rhannu â chymaint o bobl â phosibl.

“Hefyd, hoffem ddiolch i'r gweithwyr allweddol gan gynnwys y gwasanaethau brys, gofalwyr a staff y GIG yn ogystal â ffermwyr, am gadw'r wlad i fynd a bod pawb yn cadw'n ddiogel. Roeddem am bwysleisio'r neges fod pob un ohonom yn wynebu hyn gyda'n gilydd.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen:  “Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan ein cymunedau gwledig, yn enwedig Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Cymru. Fel ein meddygon, mae gan ffermwyr ran hollbwysig i'w chwarae yn ymateb ein gwlad i'r pandemig. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, maent wedi parhau i weithio er mwyn sicrhau bod gan bob un ohonom yr adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnom.

“Ar ran yr Elusen, hoffwn longyfarch aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog am greu fideo mor hyfryd ac am godi arian sy'n hollbwysig ar gyfer ein gwasanaeth achub bywydau.”

Mae sawl aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Brycheiniog wedi bod yn brysur yn helpu eu cymunedau yn ystod y cyfyngiadau symud, drwy fynd i siopa a chasglu presgripsiynau i bobl sy'n agored i niwed ac i'r henoed.

Gallwch roi arian ar wefan Just Giving yma.