Mae tua 30 o feicwyr wedi codi swm anhygoel o £4,350 ar gyfer tri achos pwysig.

Cwblhaodd aelodau, swyddogion y sir a ffrindiau Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin daith beicio 75km o amgylch y sir, a ddechreuodd yn Llanymddyfri a gorffen yn Hendy-gwyn ar Daf.

Roedd yr haul yn tywynnu yn ystod digwyddiad llwyddiannus Seiclo'r 75, a oedd er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Ymatebwyr Cyntaf Caerfyrddin ac Apêl Ymchwil Lewcemia Cymru. Cafodd pob achos £1,450.

Dyma'r tro cyntaf i Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin gynnal y daith beicio 75km o amgylch y sir. Fodd bynnag, bob blwyddyn maent yn cymryd rhan mewn her flynyddol sy'n codi arian ar gyfer elusennau lleol.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin: “Llongyfarchiadau i bawb a gwblhaodd yr her o feicio 75km o Lanymddyfri i Hendy-gwyn ar Daf.Diolch i bawb a oedd yn rhan o'r diwrnod – o bawb a helpodd i roi bwyd a diod i'r beicwyr, i'r cerbydau cymorth, i'r holl gefnogwyr a ddaeth ar hyd y ffordd – gwnaeth clywed eich cefnogaeth wir ein helpu i gyrraedd y diwedd!

“Diolch hefyd i noddwyr yr her: Siop Londis Gwalia Drefach Felindre, Lewis Carpentry and Construction, Hafod Farm Supplies ac S A Evans Groundworks and Construction.

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu'n ariannol hefyd – gwnaethom lwyddo i godi £4350 sydd yn £1450 yr un i Ambiwlans Awyr Cymru, Ymatebwyr Cyntaf Caerfyrddin ac Apêl Ymchwil Lewcemia Cymru.”

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.  

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.  

Dywedodd Katie Macro, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y De-orllewin: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad codi arian Seiclo'r 75. Diolch am godi swm anhygoel o arian ar gyfer tri achos pwysig yng Nghymru. Dylech i gyd fod yn hynod falch o godi £4,350. Bydd pob rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.