Mae grŵp o unigolion sydd â diddordeb mewn ceir yn Eryri wedi codi mwy na dwy fil o bunnoedd i Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn digwyddiadau diweddar.

Cynhaliodd y grŵp, sy'n bodoli ers llai na blwyddyn, daith geir a chodwyd swm gwych o £2,255.15.

Mae cydlynydd cymuned Ambiwlans Awyr Cymru Alwyn Jones yn cofio sut y dechreuwyd y grŵp: "Yn dilyn sgwrs rhyngof i a ffrind agos, Paul Lomas, am sut i godi arian i'r elusen, cafodd y syniad o glwb perchenogion ceir Ford ei grybwyll.

"Aeth Paul a'i ffrind Aaron ati i gael cefnogaeth gan berchenogion ceir Ford a oedd â diddordeb ledled Gwynedd, ac erbyn mis Erbill roedd ganddynt fwy na 50 o aelodau. Ar ôl trefnu ambell i ddigwyddiad 'ceir a choffi' ym Maes Awyr Caernarfon, nodwyd y prif ddigwyddiad cyntaf yn y dyddiadur."

Cynhaliwyd Taith Triongl Evo Gwynedd Eryri Fords ym mis Mehefin 2019. Aeth amrywiaeth o geir Ford o bob oedran o amgylch taith o 127 o filltiroedd i gyd, gan gynnwys y rhan ddrwgenwog, 'Triongl Evo', ar hyd prif dramwyfa'r A5.

Fel llwybr poblogaidd ymhlith cymuned moduro Gogledd Cymru, mae'r 'Triongl Evo' yn ymestyn i'r Gogledd-ddwyrain o Bentrefoelas, ar hyd yr A543, hyd at y Sportsman’s Arms.  Ar frig y triongl, mae gyrwyr yn mynd ar hyd y B4501 i'r Dde heibio i Lyn Brenig cyn ailymuno â'r A5 yng Ngherrigydrudion ac yna ymlaen at Bentrefoelas eto.

Ychwanegodd Alwyn: "Cymerodd llawer o bobl ran yn y daith gyda nifer o berchenogion ceir Ford yn dod i gael gweld rhannau gorau o gefn gwlad Gwynedd ar y ffordd. Rydym wir yn lwcus bod tirweddau mor hardd a naturiol ar garreg ein drws. Mae'r golygfeydd bob amser yn syfrdanol, felly efallai y mae'n hawdd gweld pam y daeth cymaint o bobl. Daeth y digwyddiad i ben ym Maes Awyr Caernarfon lle gwerthfawrogodd pawb wasanaethau arlwyo Caffi HEMS yr Elusen.

"Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i'r digwyddiad a sicrhaodd ei fod mor llwyddiannus.  Rydym yn hynod ddiolchgar i gael ein henwebu fel Elusen y Flwyddyn y grŵp ac edrychwn ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol agos. Mae cael cymorth gan grwpiau fel Eryri Fords yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth achub bywydau dros bobl Cymru 365 diwrnod y flwyddyn."