Mae dyn ysbrydoledig o Sir y Fflint, a gododd dros £15,000 i'r Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r Ambiwlans achub ei fywyd, yn anffodus, wedi marw.

Roedd Mark Steene, o Lanfynydd, yn benderfynol o godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i feddygon yr elusen achub ei fywyd yn dilyn damwain ddifrifol chwe blynedd yn ôl a wnaeth ei adael yn gwadriplegig.

Y llynedd, cwblhaodd Mark daith 100 milltir ar draws Gogledd Cymru yn ei gadair olwyn, y bu'n ei rheoli â'i ên, mewn 23 diwrnod ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau. Daeth hyn ar ôl yr hanner marathon a gwblhaodd o Fae Penrhyn i Lan y Môr y Rhyl i godi arian yn 2019.

Dywedodd ei chwaer, Mandy, mewn sylw ar dudalen Facebook Mark, sef ‘Air Tastes Beautiful’, “Bydd pawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu yn gweld ei eisiau. Bydd pob un ohonom yn ei gofio ef a llawenydd Air Tastes Beautiful, ac yn eu cadw yn ein calonnau. Yn eironig, roedd Ambiwlans Awyr Cymru yno pan fu farw, ac yn gofalu amdano tan y diwedd.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth Mark Steene, un o'r bobl a oedd fwyaf frwd am ein cefnogi, ac am godi arian i ni.

“Yn ystod y chwe blynedd diwethaf, dangosodd Mark gryfder a dyfalbarhad heb eu hail.  Er gwaethaf yr heriau personol roedd yn eu hwynebu, roedd Mark yn benderfynol o roi rhywbeth yn ôl i'r meddygon a oedd wedi achub ei fywyd.

“Profodd ddigwyddiad a newidiodd ei fywyd, ond serch hynny, roedd yn benderfynol o godi arian i helpu eraill, sy'n dangos y math o berson roedd Mark. Ar ran yr Elusen, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Mark, sydd wedi colli dyn mor bwysig, a oedd yn ysbrydoliaeth i bawb.”

Bydd ffrindiau Mark yn dringo Moel Famau er cof amdano heno (nos Fawrth, 25 Mai), a chynhelir ei angladd ar 28 Mai. Gofynnodd Mark i bobl beidio ag anfon blodau, ond i roi rhoddion elusennol i Ambiwlans Awyr Cymru yn ei enw yn lle hynny.

Os hoffech roi arian er cof am Mark, gallwch wneud hynny drwy fynd i dudalen codi arian Mark.

www.walesairambulance.com/fundraisers/air-tastes-beautiful